Canolfan newydd i greu 150 o swyddi yng Nghasnewydd
- Published
Fe allai 150 o swyddi newydd gael eu creu petai canolfan gynadleddau rhyngwladol yn cael ei godi ar safle'r Celtic Manor ger Casnewydd.
Cafodd cynlluniau cychwynnol ar gyfer y ganolfan 30,000 troedfedd sgwâr (2,790 metr sgwâr), fydd efo lle i 4,000 o westeion, eu cyflwyno i'r cyngor sir ddydd Mawrth.
Petai'r cynlluniau yn cael eu cymeradwyo, dyma fyddai'r mwya yng Nghymru a de orllewin Lloegr.
Fe fydd uwch gynhadledd Nato yn cael ei chynnal yn y Celtic Manor - sy'n eiddo i'r biliwnydd Syr Terry Matthews - fis Medi.
Yn ôl y cynlluniau, byddai'r adeilad tri llawr yn cael ei adeiladu ar dir ger cyffordd 24 o draffordd yr M4.
Fe fydd 'na brif theatr a neuadd arddangos a maes parcio i hyd at 1,800 o gerbydau a fydd yn cael ei gysylltu gyda'r ganolfan - a fydd yn cael ei alw'n Ganolfan Gynadleddau Rhyngwladol Cymru - drwy lwybr cerdded tanddaearol.
Traffig
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu arian cyfatebol tuag at gamau cychwynnol y prosiect.
Mae ymchwil i effaith traffig ychwanegol o ganlyniad i'r ganolfan yn awgrymu y gallai fod yn iawn petai system rheoli traffig yn cael ei gyflwyno ar y bont gerbydau dros yr M4
.Ond mae adroddiad yn dweud mai o'r gogledd a'r dwyrain y byddai'r mwyafrif o draffig a hynny ar yr A449.
Yn y cyfamser yng Nghaerdydd, mae'r cyngor yno yn bwrw ymlaen gyda chynlluniau ar gyfer canolfan gynadleddau i'r brifddinas.
Ym mis Ionawr fe wnaeth cynghorwyr gytuno i gynllun meddiant gael ei lunio ar gyfer canolfan i hyd at 1,500 o westeion fel rhan o ganolfan dan do gyda 12,000 o seddi.
Straeon perthnasol
- Published
- 20 Tachwedd 2013
- Published
- 31 Hydref 2013
- Published
- 28 Mai 2014