Mewnfudo: cosbi Prifysgol Glyndŵr
- Cyhoeddwyd

Mae Prifysgol Glyndŵr wedi colli'r hawl i noddi myfyrwyr o dramor.
Daw hyn yn sgil cyhoeddiad y Gweinidog Mewnfudo James Brokenshire yn Nhŷ'r Cyffredin eu bod nhw'n un o'r sefydliadau wnaeth roi canlyniadau anghywir mewn profion iaith Saesneg i fyfyrwyr.
Yn ôl Mr Brokenshire, fe ddaeth ymchwiliad i'r casgliad fod cangen Ewropeaidd cwmni arholi o'r enw Educational Testing Services (ETS) wedi rhoi 29,000 o ganlyniadau annilys.
Ychwanegodd fod 19,000 o ganlyniadiau pellach yn codi cwestiynau. Mae ymchwiliad troseddol wedi dechrau i rôl ETS Global.
Mae gan Brifysgol Glyndŵr bedwar safle, Wrecsam, Llanelwy, Llaneurgain a Llundain. Mae'n bosib' bod y canlyniadau dan sylw'n ymwneud â champws Llundain yn benna'.
Dywedodd y llywodraeth fod dwy brifysgol arall - Prifysgol Bedfordshire a Phrifysgol Gorllewin Llundain - wedi cael eu hatal dro dro rhag noddi myfyrwyr newydd.
Bydd ymchwiliad a ddylai'r ddwy gael eu hatal yn llwyr.
Yn ogystal mae trwyddedau 57 o golegau addysg pellach yn y sector breifat wedi eu hatal dros dro.
'Pryder mawr'
Dywedodd y gweinidog: "Ers cyflwyno diwygiadau yn 2011 mae wedi bod yn ofynnol i bob myfyriwr sy'n gwneud cais am fisa allu profi eu bod nhw'n gallu siarad Saesneg i lefel briodol."
Wedi i raglen Panorama'r BBC ddarganfod bod ETS yn twyllo mewn nifer o achosion, gan weithio gyda gangiau troseddol a chanolfannau arholi, fe ymchwiliodd y llywodraeth.
"Mae'r dystiolaeth maen nhw [yr awdurdodau mewnfudo] wedi ei chael o beth sy'n mynd ymlaen o fewn y sefydliadau hyn yn destun pryder mawr," meddai Mr Brokenshire.
"Mae nifer y myfyrwyr gafodd eu noddi gan Brifysgol Glyndŵr â chanlyniadau annilys - wedi eu darparu gan ETS - yn 230 hyd yn hyn ac yn fwy na 350 os ydych yn ychwanegu'r canlyniadau sydd wedi eu cyfri fel rhai amheus."
Ychwanegodd: "Dyw'r llywodraeth ddim yn barod i dderbyn hyn. Felly gallaf ddweud wrth y Tŷ fod y Swyddfa Gartref y bore 'ma wedi atal statws 'Noddwr Ymddiriedaeth Uchel Iawn' Prifysgol Glyndŵr, hynny yw'r hawl i noddi myfyrwyr tramor."
'Gofidio'n arw'
Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol: "Mae'r brifysgol yn gofidio'n arw bod ei thrwydded noddi wedi cael ei hatal gan Wasanaeth Fisa a Mewnfudo'r DU ac rydym yn gweithio gyda nhw i ymchwilio i'r materion a godwyd.
"Mae gennym bartneriaethau gyda nifer o gyflenwyr ac rydym yn siomedig iawn i fod yn destun unrhyw dwyll neu weithgaredd fyddai'n peryglu'r drwydded.
"Mae cael ein rhoi yn y sefyllfa yma gan bartneriaid allanol yn rhwystredig gan fod Prifysgol Glyndŵr yn cymryd eu chyfrifoldebau fel Noddwr Ymddiriedaeth Uchel o ddifri ac wedi ymrwymo i gefnogi addysg i'r myfyrwyr o dramor sy'n cydymffurfio â gofynion mewnfudo.
"Mae'r brifysgol wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r Gwasanaeth Fisa a Mewnfudo mewn ymgais i wella'n gweithredoedd ar gampws Elephant and Castle {Llundain} ac fe fyddwn yn parhau i wneud hynny.
"Rydym wedi sefydlu tîm ymchwilio newydd i'r mater ac fe fyddwn yn ymateb i'r pwyntiau a godwyd fel y gallwn ddatrys y mater a chael ein trwydded yn ôl."
Straeon perthnasol
- 16 Hydref 2012
- 27 Mehefin 2012
- 24 Chwefror 2012