'Trawsnewid' gofal cymdeithasol yng Nghymru

gofal cymdeithasol

Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Gwenda Thomas wedi cyhoeddi y bydd meini prawf cenedlaethol newydd i weld pwy sy'n gymwys am ofal cymdeithasol yng Nghymru.

Bydd y system newydd yn cael ei chyflwyno fel "rhan o'r trawsnewidiad mwyaf mewn deddfwriaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru ers 60 mlynedd" pan ddaw cyfraith newydd i rym yn 2016, medd y llywodraeth.

Mae'n golygu y bydd pobl yn gymwys i gael gofal cymdeithasol pan na allant ymdrin â'u hanghenion llesiant eu hunain heb gynllun gofal a chymorth.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog fod llesiant yn hawl ac yn gyfrifoldeb i bawb.

Ebrill 2016

Bydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i hybu llesiant a threfniadau newydd ar gyfer asesu a chymhwyster pan fydd yn dod i rym ym mis Ebrill 2016.

Hefyd heddiw cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog y fframwaith canlyniadau cenedlaethol, a fydd yn helpu i gyflwyno gofal sy'n canolbwyntio ar y person ac yn gosod y sylfaen ar gyfer y model cymhwyster.

Bydd y meini prawf cymhwyster cenedlaethol newydd ar gyfer gofal cymdeithasol yn cymryd lle'r meini prawf presennol sy'n seiliedig ar ddiffiniadau o lefelau isel, cymedrol, sylweddol a chritigol.

Bydd y model newydd yn seilio penderfyniadau ar drafodaeth am "yr hyn sy'n bwysig" a'r hyn y mae'r person am allu gwneud mewn bywyd ac a oes angen gofal a chymorth arno i gyflawni hyn.

Bydd y meini prawf cymhwyster newydd:

  • Yn symud tuag at atal anghenion yn gwaethygu a gwneud y gorau o gyfleoedd i ymyrryd yn gynt i gynnig cymorth cymesur i bobl o fan bodloni neu leihau angen;
  • Yn helpu i ganolbwyntio ar lesiant a chryfderau pobl, ac adeiladu ar eu rhwydweithiau a chysylltiadau teuluol a chymunedol;
  • Yn helpu pobl i fod wrth wraidd penderfyniadau am eu llesiant a chadw rheolaeth ar eu bywydau;
  • Yn sicrhau bod pobl yn cael y cymorth iawn, yn y lle iawn, ar yr amser iawn.

Atal problemau

Bydd y system newydd yn canolbwyntio ar atal problemau, tryloywder ac adeiladu ar gryfderau pobl i'w galluogi i gael rheolaeth ar yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw, eu hanghenion a'u dyheadau.

Gwnaeth y Dirprwy Weinidog y cyhoeddiad yn ystod araith i'r Gynhadledd Gwasanaethau Cymdeithasol Genedlaethol flynyddol yn Llandudno.

Dywedodd Gwenda Thomas: "Pobl sydd yn y safle gorau i benderfynu ar y canlyniadau y maen nhw eisiau eu cyflawni, felly mae'n rhaid i ni weithio mewn partneriaeth i adeiladu ar gryfderau, galluoedd a chymunedau pobl i'w galluogi i gadw annibyniaeth briodol gyda lefel briodol o ofal a chymorth.

"Bydd y fframwaith canlyniadau cenedlaethol i bobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth yn cynnig mwy o dryloywder ynghylch a yw gwasanaethau gofal cymdeithasol yn gwella canlyniadau llesiant, gan ddefnyddio dangosyddion canlyniadau cyson a chymaradwy."

Cefnogaeth gref

Yn ôl Fforwm Gofal Cymru, fe fydd y gwelliannau yn dod â'r 'loteri côd post' ar safon gofal i ben.

Fe ddywedodd Mario Kreft, cadeirydd y fforwm: "Mae'n gam mawr ymlaen oherwydd 'dy ni'n symud oddi wrth y 22 system yn yr awdurdodau lleol, i rywbeth y bydd pobl yn ei ddeall...

"Cysondeb a thrylowyder yw'r allwedd. Be' mae pobl ei eisiau fwy na dim, yw gwybod beth yw'r trothwy, a phryd maen nhw'n gymwys i dderbyn gofal cymdeithasol wedi ei noddi gan y llywodraeth."

Straeon perthnasol