'Rhyw di-hid': Cynnydd mewn syffilis

  • Cyhoeddwyd
Doctor
Disgrifiad o’r llun,
Eleni, mae 55 achos wedi bod yn ne Cymru

Wedi i Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) gyhoeddi bod cynnydd sylweddol wedi bod mewn achosion o'r clefyd rhywiol syffilis yng ngogledd Cymru, nawr mae'r sefydliad yn dweud bod pryder am gynnydd yn y de hefyd.

Fis diwethaf, fe nododd ICC 39 achos ers canol 2013, o'i gymharu â saith achos fel arfer.

Nawr, mae hi wedi dod i'r amlwg bod yr haint yn broblem mewn rhannau eraill o Gymru, gyda 55 achos yn ne Cymru hyd yn hyn eleni.

Mae 'na dystiolaeth bod syffilis yn lledaenu'n gyflym ymysg pobl sy'n defnyddio gwefannau i ddod o hyd i ddêt neu gariad, er mwyn cael rhyw di-hid.

Fe ddywedodd Dr Gwen Lowe, sy'n ymgynghorydd ar reoli afiechydon heintus yn ICC: "'Dy ni'n gweld cynnydd yn nifer achosion syffilis ledled Cymru, a'r rhan fwyaf ymysg dynion sydd wedi cysgu gyda dynion eraill.

"Er hyn, 'dy ni hefyd yn gweld pobl sy'n ddeurywiol neu'n heterorywiol, ac mae llawer o'r rhain wedi eu heintio ar ôl cyfarfod pobl ar wefannau neu aps i ddod o hyd i ddêt.

"Rydyn ni'n annog unrhyw un sy'n meddwl y gallen nhw fod mewn peryg i gysylltu â'u clinig iechyd rhyw am brawf, gan y gellir trin yr haint gyda gwrthfiotigion - mae'n gallu troi'n ddifrifol heb ei drin".