BBC Cymru Fyw

Cavendish allan o ras feicio

Published
image copyrightGetty Images
image captionMae Cavendish yn dioddef o lid y frest.

Mae Mark Cavendish wedi tynnu allan o Bencampwriaeth Seiclo Ffordd Prydain yng Nghymru ddydd Sul.

Mae Cavendish, enillydd y ras y llynedd yn Glasgow, yn dioddef o lid y frest.

Meddai Cavendish: "Rwy'n drist oherwydd, fel y pencampwr presennol, byddwn wir yn hoffi amddiffyn y teitl."

Mae'r bencampwriaeth yn ardal Y Fenni rhwng dydd Iau a dydd Sul ac yn cynnwys prawf amser a rasys ffordd.

2009 oedd y tro diwethaf i'r Fenni gynnal Pencampwriaeth Prydain.

image copyrightHuw Evans picture agency
image captionCafodd y bencampwriaeth ei chynnal yn Sir Fynwy yn 2009