BBC Cymru Fyw

Cymry Glastonbury

Published
image captionCroeso i Glastonbury!
image captionYn 2007, fe wisgodd Shirley Bassey welis wedi eu dylunio gan y Cymro Julien Macdonald cyn perfformio
image captionMarina and the Diamonds yn perfformio yn 2010. Dywedodd y gantores o Frynmawr ei bod hi bron a chrogi ar weiren meicroffon yn ystod ei pherfformiad.
image captionBu Syr Tom Jones yn perfformio rhai o'i glasuron fel Delilah, Sex Bomb ac Its not Unusal ar lwyfan y Pyramid yn 2009
image captionJames Dean Bradfield a'r Manic Street Preachers sydd wedi rhoi perfformiadau llawn egni sawl gwaith yn Glastonbury
image captionMi berfformiodd y band Joy Formidable or Wyddgrug ar 'The Other Stage' yn 2010 er gwaetha' rhai problemau technegol cyn dechrau
image captionMae Gruff Rhys eisoes wedi perfformio yn Glastonbury gyda'r Super Furry Animals ac eleni bydd yn arwain ymwelwyr yr wŷl ar daith "American Interior"
image captionRoedd Duffy yn bell o Warwick Avenue pan yn perfformio ar fferm Worthy yn 2008
image captionCafodd Colorama eu henwebu gan BBC Radio Cymru i berfformio ar lwyfan BBC Introducing yn 2009.
image captionMae Cerys Matthews wedi perfformio yn Glastonbury ddwywaith... gyda Catatonia yn 1998 a gyda'r Pet Shop Boys yn 2000
image captionYr Ods, un o'r bandiau Cymraeg sydd fu'n diddanu'r gwersyllwyr yn 2009 a 2010
image captionEleni fydd yr eildro i Cate Le Bon o ardal Castell Newydd Emlyn berfformio'n yr Ŵyl.
image captionBydd Kizzy Crawford, un o artistiaid Gorwelion yn perfformio yn Glastonbury eleni ar lwyfan BBC Introducing
image captionBand gwerin o Sir Fynwy yw Rusty Shackle
image captionGallwch glywed llais hudol, swynol Violet Skies o Gasgwent ar lwyfan BBC Introducing eleni