BBC Cymru Fyw

Arddangosfa o waith Tunnicliffe ar gyfer llyfrau Ladybird

Published
image copyrightLadybird
image captionClawr llyfr What to look for in Spring gan Charles Tunnicliffe

Mae arddangosfa newydd wedi agor yn Oriel Ynys Môn sy'n rhoi cyfle i bobol weld gwaith celf sydd wedi bod yn dal dychymyg plant ers cenedlaethau.

Am bron i ganrif, mae'r llyfrau Ladybird wedi diddori plant ar draws y byd.

image captionAdar ar do tŷ Tunnicliffe yn Malltraeth

Roedd y llyfrau addysgiadol poblogaidd yn cynnwys gwaith celf rhai o arlunwyr a darlunwyr enwocaf Prydain, gan gynnwys yr arlunydd bywyd gwyllt byd enwog, Charles Tunnicliffe.

Dywedodd Ian Jones, Swyddog Amgueddfeydd Cyngor Sir Ynys Môn: "Mae Charles Tunnicliffe yn cael ei gydnabod ymysg arlunwyr bywyd gwyllt gorau'r ugeinfed ganrif, a chafodd llawer o'i waith ei gynhyrchu yma ym Môn.

"Tra roedd ei gyfraniad i'r byd celf yn anhygoel, fe wnaeth ei ddarluniadau i lyfrau Ladybird hefyd helpu i ddysgu cenedlaethau o blant a phobl ifanc am y bywyd gwyllt o'n hamgylch.

"Rydym yn falch iawn o gael yr arddangosfa wych hon yn Oriel Ynys Môn a hoffem ddiolch i lyfrau Ladybird a Phrifysgol Reading am eu cydweithrediad yn dod â'r casgliad hwn i Fôn."

Y tymhorau

Roedd Tunnicliffe yn ddarlunydd cynhyrchiol iawn ac mae rhai o'i weithiau enwocaf yn cynnwys y gyfres o lyfrau a ddarluniodd i Ladybird. Ei lyfr cyntaf iddynt oedd The Farm, oedd yn rhan o'r gyfres Learning to Read a luniwyd yn arbennig ar gyfer plant ifanc.

Yn fuan wedyn, comisiynwyd yr arlunydd i ddarlunio cyfres o lyfrau natur yn seiliedig ar y pedwar tymor gyda lluniau Tunnicliffe yn darlunio'r testun gan E L Grant Watson. Maent yn mynd â'r darllenydd ar daith drwy'r tymhorau.

Mae'r darluniau yn dangos sut mae anifeiliaid, planhigion a phryfaid yn addasu i'w hamgylchiadau newidiol.

Mi fydd cyfle i weld yr arddangosfa rhwng nawr a mis Rhagfyr.

image captionCharles Tunnicliffe yn gweithio yn ei stwdio ym Malltraeth