Mapiau hanesyddol Cymraeg o'r byd wedi eu gwerthu
- Cyhoeddwyd
Adroddiad Elen Wyn
Cafodd mapiau Cymraeg prin o'r 19eg Ganrif eu gwerthu mewn arwerthiant ym Mae Colwyn.
Cafodd y mapiau prin eu cyhoeddi gan awdur, argraffydd ac addysgwr o Gaergybi, Robert Roberts (1777-1836).
Maen nhw'n fapiau lliw, gydag un ohonyn nhw o'r byd yn dangos yr agweddau dwyreiniol a gorllewinol o'r enw 'Darluniad y Ddaear,' a luniwyd yn wreiddiol ganddo yn 1805.
Mae'r mapiau eraill yn dangos Gogledd America, Affrica, Asia a De America, a'r cyfan yn Gymraeg.
Cafodd y mapiau eu gwerthu am £650 a £950 i'r gŵr busnes lleol, Gareth Roberts.
"Mae gen i ddiddordeb yn Robert Roberts wedi bod ers sawl blwyddyn ac fe ddywedodd ffrind i mi am yr arwerthiant," eglurodd Mr Roberts.
Ymestyn y geiniog
"Wrth gwrs roedd rhaid dod yma ac roeddwn yn hynod falch o weld be oedd yma.
"Dyma'r unig fapiau y gwn i amdanyn nhw yn gyfangwbl yn Gymraeg.
"Y diddordeb mewn cartogreffeg ac oherwydd eu prinder.
"Rhaid i mi ddweud, o achos eu bod yn cael eu gwerthu mewn lleoliad pur Gymreig a gweld cymaint o Gymry yn edrych arnyn nhw, roeddwn i'n gwybod y byddai rhaid ymestyn y geiniog!"
Cyhoeddwyd y lluniau yma i gyd yng ngwaith Roberts, Daearyddiaeth a Seryddiaeth, mewn pum cyfrol rhwng 1812 a 1816.
Roedd y gyfrol orffenedig yn cael ei ddisgrifio gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn 2004, fel testun daearyddiaeth cyntaf yr iaith Gymraeg.
Pwysigrwydd hanesyddol
Oherwydd pwysigrwydd hanesyddol y casgliad roedd yr arwerthwyr Rogers Jones wedi disgwyl derbyn cynigion o rai cannoedd o bunnoedd amdanyn nhw.
Yn ogystal â rhedeg ei ysgol ei hun yng Nghaergybi roedd gan Roberts arsyllfa breifat ac ysgrifennodd almanaciau gan ddatblygu enw am ei ddiddordeb mewn seryddiaeth.
Cyhoeddodd yn helaeth yn yr iaith Gymraeg, gan gynnwys llyfr byr ar ddaearyddiaeth o'r enw Y Dangosai Daearyddawl.