Caethwasiaeth yn 'broblem fawr' medd arbenigwr

  • Cyhoeddwyd
Stephen Chapman
Disgrifiad o’r llun,
Yn ol Stephen Chapman mae caethwasiaeth yn drosedd gudd

Cyfran fechan o'r broblem yw'r achosion diweddar o gaethwasiaeth yng Nghymru yn ôl arbenigwr Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Stephen Chapman, cyd-lynydd gwrth-gaethwasiaeth Llywodraeth Cymru wrth BBC Cymru "dydyn nhw ddim yn gwybod pa mor fawr ydy'r broblem yna".

Mae ei sylwadau yn dod ar ôl i bedwar o ddynion gael eu rhyddhau ar fechnïaeth wedi iddyn nhw gael eu harestio ar amheuaeth o gaethwasiaeth a herwgipio.

Cafodd 34 o achosion o gaethwasiaeth eu cofnodi yn 2012 yng Nghymru.

Ond mi gododd hyn i 54 y llynedd yn ôl Mr Chapman.

"Mae'r achosion yma yn digwydd tu ôl i ddrysau caeëdig a phwy â wyr beth sydd yn digwydd tu ôl i ddrysau caeëdig.

"Yr hyn rydyn ni eisiau ei wneud ydy tynnu sylw at y drosedd yma, gwneud y cyhoedd yn ymwybodol a'u cael nhw i ddweud wrth yr awdurdodau."

Ychwanegodd bod hyn yn "drosedd gudd iawn".

"Dydy pobl ddim yn dweud wrth yr awdurdodau."