Milwyr Bannau Brycheiniog: Dim cyhuddiadau o ddynladdiad
- Published
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi dweud na fydd cyhuddiadau o ddynladdiad drwy esgeulustod dybryd wedi i dri milwr farw ym Mannau Brycheiniog.
Dywedodd y byddai'r ymchwiliad troseddol yn parhau ond mai'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch fyddai'n benna' gyfrifol.
Bu farw Is-gorporal Craig Roberts, 24 oed o Fae Penrhyn, ac Is-gorporal Edward John Maher, 31 oed, wedi hyfforddiant SAS wrth i'r tymheredd gyrraedd 29.5 Selsiws ar 13 o Orffennaf y llynedd.
Bu farw Corporal James Dunsby bythefnos yn ddiweddarach.
Roedd y dynion ymysg chwech o filwyr gafodd eu hachub ar y mynydd y diwrnod hwnnw.
'Dim digon o dystiolaeth'
Dywedodd Catrin Evans, Pennaeth Uned Gwaith Achos Cymhleth Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru fod ffeiliau tystiolaeth wedi eu trosglwyddo iddyn nhw ar gyfer adolygiad.
Yn sgil adolygiad dywedodd Ms Evans nad oedd digon o dystiolaeth i erlyn.
"Rydw i wedi gorffen adolygiad o'r achos ac wedi casglu nad oes digon o dystiolaeth i gefnogi cyhuddiad o ddynladdiad drwy esgeulustod dybryd yn erbyn y ddau a nodwyd gan yr ymchwiliad.
"Doedd y dystiolaeth ar gael ddim yn cyrraedd y safon gyfreithiol ofynnol ar gyfer erlyniad."
"Rydym yn cydymdeimlo gyda theuluoedd y tri milwr a gollodd eu bywydau ac wedi ysgrifennu atyn nhw i esbonio ein penderfyniad.
"Maen nhw wedi cael cynnig cyfle i gwrdd â chyfreithwyr gan ein tîm adolygu i drafod y mater yn fwy manwl os ydyn nhw'n teimlo y byddai hyn yn ddefnyddiol."
Ym Mehefin clywodd gwrandawiad cyn cwest yn Solihull, Canolbarth Lloegr, mai gor-boethi laddodd y milwyr.
Mae disgwyl cwest llawn yn ddiweddarach eleni.
Straeon perthnasol
- Published
- 8 Awst 2013
- Published
- 21 Gorffennaf 2013
- Published
- 16 Gorffennaf 2013
- Published
- 24 Gorffennaf 2013