Heddlu terfysg yn arestio a rhyddhau dyn ar fechnïaeth
- Published
image copyrightGoogle
Mae dyn 18 oed wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth yng Nghaerdydd wedi iddo gael ei arestio yn gynharach ar amheuaeth o droseddau terfysgaeth.
Cafodd y dyn, sy'n dod o ardal Grangetown, ei arestio o dan Adran Pump o Ddeddf Derfysgaeth 2006, oedd yn golygu ei fod yn cael ei gadw dan amheuaeth o fod yn rhan o gynllwyn i gyflawni gweithred derfysgol.
Erbyn hyn mae wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth.
Yn ystod y diwrnod cafodd ei holi gan swyddogion o Uned Gwrthderfysgaeth Gogledd-Orllewin Lloegr ac Uned Gwrthderfysgaeth ac Eithafiaeth Cymru.
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i gysylltiad posib rhwng yr arestiad ddydd Mercher a'r tri dyn ifanc a gredir eu bod wedi teithio i Syria i ymuno ag ISIS.