BBC Cymru Fyw

Dyn o Gaerdydd wedi marw ar drip i Wlad Belg

Published

Mae dyn o ardal Caerdydd wedi marw yn ystod gwyliau byr yng Ngwlad Belg.

Mae'n debyg fod Nigel Hinton wedi cael ei ladd mewn damwain tra'r oedd o'n teithio ddydd Llun.

Fe wnaeth ffrind i deulu Mr Hinton gadarnhau ei fod o wedi marw.

Mae'r Swyddfa Dramor wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod nhw'n gwybod am farwolaeth person o Brydain yn y wlad ddydd Llun.

Fe ychwanegodd llefarydd: "Rydym ni'n rhoi cyngor i'r teulu".