Lluniau 'bomiau cartref' Jihadydd
- Published
Mae 'na luniau ar wefan gymdeithasol o 'fomiau cartref', gan unigolyn sy'n honni i fod yn un o'r tri o Gaerdydd sy'n ymladd gyda charfan Isis yn Syria.
Mae dyn sy'n dweud mai Nasser Muthana, 20 ydy o wedi dweud fod "y DU yn ofni i mi ddod yn ôl gyda'r sgiliau rwy' wedi eu dysgu", o dan lun o ddyfeisiau ffrwydrol.
Daw hyn yn fuan wedi i ddyn - oedd yn dweud mai brawd Nasser, Aseel ydoedd - ddweud wrth BBC Cymru ei fod yn barod i farw dros yr achos.
Fe ymddangosodd Mr Muthana a dyn arall o Gaerdydd, Reyaad Khan, 20, mewn fideo arlein bythefnos yn ôl, yn annog dynion ifanc i ymuno ag ymgyrch Isis.
Nawr, ar wefan gymdeithasol, mae dyn sy'n honni mai Nasser Muthana ydi o, wedi cyhoeddi llun sy'n dangos tua 15 o fomiau cartref mewn casgenni metel.
Yn ogystal, fe gyhoeddodd lun o arf oedd "wedi ei gymryd gan fwslim Shia".
Fe ddywedodd tad y brodyr, Ahmed Muthana, 57, nad hwn oedd "y mab dw i'n ei 'nabod", gan ychwanegu ei fod o am i'w blant ddod adref, hyd yn oed pe baen nhw'n cael eu carcharu.
Meddai: "Beth bynnag mae'n nhw'n ei wneud neu'n gyhoeddi ar y we, mae'r bobl gyda'r gynnau sy'n eu bwydo nhw yn dweud wrthyn nhw am wneud - mae'n nhw'n edrych ar eu holau ac yn eu rheoli.
"Dwi'n meddwl eu bod nhw'n gaeth yn y sefyllfa ac mae hynny'n ei gwneud hi'n anodd iddyn nhw ddod adref, neu gadael y lle."
Fe ychwanegodd nad ydi o wedi siarad gyda'i feibion ers iddyn nhw adael.
Yn y cyfamser, mae dyn 18 oed gafodd ei arestio dan amheuaeth o droseddau terfysgol - all fod yn gysylltiedig â Jihadwyr Caerdydd - wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.
Nos Fercher, fe ddywedodd Heddlu'r De bod dyn o ardal Grangetown y brifddinas wedi cael ei holi am honiadau ei fod wedi bod yn rhan o gynllwyn i gyflawni gweithred derfysgol.
Fe gadarnhaodd swyddogion eu bod nhw'n ymchwilio i gysylltiad rhwng y dyn a'r dynion sy'n ymddangos yn fideo Isis.
Straeon perthnasol
- Published
- 2 Gorffennaf 2014
- Published
- 2 Gorffennaf 2014
- Published
- 22 Mehefin 2014
- Published
- 20 Mehefin 2014