Gerald Davies yn gorffen ei gyfnod ar fwrdd URC
- Cyhoeddwyd

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi anfon llythyr at aelodau ar ran y cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Gerald Davies, yn datgan nad yw am ei ail-ethol fel cynrychiolydd cenedlaethol ar fwrdd cyfarwyddwyr yr undeb.
Mae tymor tair blynedd Gerald Davies fel cynrychiolydd cenedlaethol ar Fwrdd Cyfarwyddwyr Undeb Rygbi Cymru ar fin dod i ben, ac nid yw'n awyddus i barhau fel aelod am dair blynedd arall.
Dywedodd y chwaraewr 69 mlwydd oed ei fod wedi gwneud y penderfyniad gyda chryn dristwch gan fod rygbi'r undeb wedi chwarae rhan fawr iawn yn ei fywyd fel chwaraewr a gweinyddwr.
Tim gorau Cymru
Roedd Gerald Davies yn chwarae i glybiau Caerdydd a Chlwb Rygbi Cymry Llundain.
Enillodd 46 o gapiau dros Gymru i gyd, gan sgorio 20 o geisia. Roedd yn aelod o'r tîm cenedlaethol a gyflawnodd y Gamp Lawn yn 1971, tîm a ystyrir gan lawer fel y tîm gorau i gynrychioli Cymru erioed.
Cafodd ei ddewis i ymuno ar y daith gyda'r Llewod yn 1968 a 1971, gan fod yn aelod o'r tîm enwog a enillodd y gyfres o gemau prawf yn erbyn y Crysau Duon.
Dywedodd Mr Davies "Nid wyf yn dymuno i dorri fy nghysylltiadau gyda'r gêm yn gyfan gwbl, byddaf wastad yn chwilio am gyfleoedd i annog a chefnogi'r gêm sydd mor agos at fy nghalon.
"Byddaf yn gwylio â diddordeb mawr sut mae'r Undeb Rygbi Cymru yn cwrdd â'r heriau cynyddol sydd o'i blaen."
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi mynegi eu diolchgarwch i Mr Gerald Davies am ei gyfraniad mawr i'r undeb ac i'r byd rygbi yn ei gyfanrwydd yn ystod ei gyfnod fel aelod o'r bwrdd.
Maent hefyd am ddymuno'n dda iddo ac ar gyfer unrhyw waith y bydd yn ymgymryd ag o yn y dyfodol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2014