Cynghrair Ewropa
- Published
Airbus 1 Haugesund 1
Stjarnan 4 Bangor 0
Derry City 4 Aberystwyth 0
Mae'r tymor pêl-droed wedi cychwyn yn gynnar iawn i dri o glybiau uwch-gynghrair Cymru.
Yn rownd gyntaf rhagbrofol Cynghrair Ewropa, gêm gyfartal 1-1 gafodd Airbus UK gartre yn erbyn FK Haugesund o Norwy.
Rhwydodd Jordan Johnson ar ôl 29 munud i roi Airbus ar y blaen ond daeth y Norwyaid yn gyfartal ddau funud cyn yr egwyl trwy ergyd ragorol o 20-llath gan Daniel Bamberg.
Gwnaeth y gôl-geidwad James Coates ddau arbediad pwysig yn hwyr i gadw gobeithion Airbus yn fyw.
Roedd Bangor yn wynebu tîm o Wlad yr Ia, Stjarnan, sydd wedi dod yn enwog ers i fideos o'u dathliadau creadigol gael eu gweld gan filoedd ar y we.
Mae Stjarnan ar frig Uwchgynghrair Gwlad yr Ia ar hyn o bryd, ac fe roddon nhw gweir 4-0 i dîm Neville Powell.
Sgoriodd Olafur Karl Finsen ddwywaith, yn gyntaf o'r smotyn ar ôl i Anthony Miley lorio Niclas Vemmelund, cyn i Veigar Gunnarsson ddyblu'r fantais.
Wedi naw munud o'r ail hanner, sgoriodd Finsen ei ail, gyda Arnar Björgvinsson yn sgorio'r bedwaredd.
Erbyn y diwedd, dim ond 10 dyn oedd gan Fangor, ar ôl i Sam Hart gael cerdyn goch.
Roedd Aberystwyth wedi teithio ar draws Fôr Iwerddon i chwarae yn erbyn Derry City yn y gêm arall, a 4-0 oedd y sgôr yno hefyd.
Rhoddodd Patrick McEleney y tîm cartref ar y blaen wedi 15 munud.
Cafodd gôl-geidwad Aberystwyth, Mike Lewis, ei anfon bant am lorio Rory Paterson, a sgoriodd yntau o'r gic gosb.
Mark Timlin a Barry McNamee roddodd yr halen yn y briw.