4,000 o droseddau tra ar fechnïaeth yn 2013
Alun Jones
BBC Cymru Fyw
- Published
Fe gafodd bron i 4,000 o droseddau eu cyflawni yng Nghymru'r llynedd gan bobl oedd wedi'u rhyddhau ar fechnïaeth.
Fe gafodd 3,813 o droseddau eu cyflawni gan 2,018 o bobl pan oedden nhw ar fechnïaeth yn 2013.
Mae'r troseddau yn cynnwys 999 achos o ddwyn a thrafod eiddo gafodd eu dwyn, 269 trosedd o drais corfforol a 19 o droseddau rhyw.
Cafodd BBC Cymru Fyw y wybodaeth wedi cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Mechnïaeth i 18,410
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dweud nad yw'r mwyafrif llethol sy'n cael mechnïaeth yn ail-droseddu.
Rhoddwyd mechnïaeth i 18,410 yng Nghymru yn 2013.
Mae cyfanswm y troseddau a gyflawnwyd ar fechnïaeth wedi gostwng yn gyson ers 2010 pan gofnodwyd 10,087.
Yn 2011 roedd 9,286, ac yn 2012 roedd 7,995.
'Amodau caeth'
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Mae caniatáu mechnïaeth yn fater i'r llysoedd benderfynu mewn achosion unigol.
"Dylai troseddwyr peryglus bob amser gael eu cadw yn y ddalfa tra'n aros am achos llys.
"Ar gyfer y rhai sy'n cael eu rhyddhau ar fechnïaeth, mae amodau caeth megis tagiau a chyrffyw ar gael i'r llysoedd.
"Cafwyd gostyngiad i'w groesawu yn nifer y bobl sy'n troseddu tra ar fechnïaeth."
Ond dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Y Swyddogion Prawf (NAPO): "Fe ddylai'r llysoedd ymgynghori bob amser gyda'r gwasanaeth prawf ynghylch ceisiadau am fechnïaeth, yn enwedig wedi troseddau treisgar a throseddau rhyw honedig.
"Mae'n destun pryder i ni nad yw hynny'n digwydd yn rheolaidd ar hyn o bryd.
"Yn achos trais domestig, mae'n bosib na fyddai'r llysoedd yn ymwybodol o'r risg heb ymgynghori â ni."
* Yn ôl y Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae'r "ffigyrau yn y tabl wedi'u cymryd o'r detholiad o ddata Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC) a gedwir gan yr Adran. Fel sy'n wir am unrhyw system gofnodi graddfa fawr, mae'n bosib fod gwallau wedi digwydd wrth gofnodi a phrosesu data ar y PNC. Yn benodol, rydym yn ymwybodol fod y data a gofnodwyd ynghylch pa un ai a gyflawnwyd y trosedd tra'r oedd y troseddwr ar fechnïaeth ai peidio yn anghyflawn, ac rydym yn ymchwilio i weld pam mae'r ffigyrau ar gyfer 2013 yn arbennig o isel".
Straeon perthnasol
- Published
- 29 Mehefin 2014