Record byd newydd am ddawnsio Gangnam?
- Cyhoeddwyd

Mae cymuned yng Nghymru yn hyderus ei bod wedi gosod record byd newydd a hynny ar gyfer dawnsio Gangnam.
Mae'r trefnwyr yn dweud bod 1,060 o bobl wedi dod i wŷl Yr Eglwys Newydd ddydd Sadwrn i ddawnsio yn y dull yma.
Mae'n ddull sydd wedi dod yn boblogaidd ar ôl i'r seren bop Psy o Korea ddawnsio fel hyn mewn fideo cerddoriaeth.
Roedd yn rhaid i o leiaf 1,000 o bobl ddod i gymryd rhan iddi fod yn record byd newydd swyddogol ac maent yn gobeithio y bydd y ffigyrau yn cael eu cadarnhau yn fuan.
Dywedodd y trefnydd Rachael Barlow: "Doedden ni ddim yn siwr os oedden ni mynd i gyrraedd y nod. Ond yn y diwedd mi wnaethon ni. Mi oedd e'n rhywbeth anhygoel i ni wireddu.
"Dw i eisiau diolch i bawb ddaeth i ymuno a'r holl bobl wnaeth helpu i wneud yn siwr bod hyn yn medru digwydd."
Busnesau lleol oedd yn noddi'r digwyddiad ac mae'r holl arian gafodd ei godi yn mynd at ysbyty canser Felindre.