'Angen rhoi hwb i ddatblygwyr llai'
- Cyhoeddwyd
Mae angen i'r llywodraeth wneud mwy i roi cyfle i ddatblygwyr llai adeiladu tai yng Nghymru, yn ôl Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr (FMB).
Mae'r sefydliad yn dweud hyn yn sgil cyhoeddiad arolwg oedd yn edrych ar y farchnad yn ail chwarter 2014.
Dywedodd cyfarwyddwr FMB Cymru, Richard Jenkins: "Er ei fod yn galonogol i weld twf o fewn y diwydiant adeiladu yng Nghymru yn parhau, er ei fod wedi gostwng yn ddiweddar - fel gafodd ei ragweld ar ddechrau'r dirwasgiad, mae'r diwydiant wedi bod yn colli sgiliau.
"Wrth i ni ddychwelyd at sefyllfa economaidd well rydym yn gweld diffyg sgiliau digonol mewn rhai sectorau fel gosod brics a phlastro."
Ychwanegodd Mr Jenkins: "Rwyf hefyd yn pryderu am yr anghydbwysedd o ran cyfleoedd i ddatblygu o fewn adeiladu tai yn parhau i fod yn gryf o blaid adeiladwyr sy'n codi mewn niferoedd.
"Rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu er mwyn sicrhau fod datblygwyr llai yn gallu cystadlu'n effeithiol mewn datblygu adeiladu tai yng Nghymru oherwydd does dim amheuaeth y byddai hyn yn rhoi hwb fawr i Lywodraeth Cymru i gyrraedd y targedau adeiladu."
'Cefnogi datblygwyr llai'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i gefnogi datblygwyr llai, sy'n chwarae rhan hollbwysig yn adeiladu tai sydd wir eu hangen ledled Cymru.
"Mae ein menter Cymorth i Brynu Cymru, er enghraifft, yn agored ar gyfer pob adeiladwr tai ac mae wedi gweld nifer iach o adeiladwyr llai yn cynnig cynlluniau ecwiti a rennir.
"Mi fydd y cwmnïau yma yn helpu i ddarparu rhai o'r 5,000 o dai fydd yn cael eu cefnogi gan y fenter yng Nghymru."
Ychwanegodd y llywodraeth bod cynnydd "dramatig" wedi bod yn nifer o bobl ifanc sy'n gwneud cyrsiau prentisiaeth dros y blynyddoedd diwethaf.
Straeon perthnasol
- 24 Ebrill 2014