Iwan a'r Gymanwlad
- Published
Mae Iwan Llion wedi symud yn ddiweddar i fyw yn Helensburgh ar gyrrion Glasgow. Bu'n son wrth BBC am y newid byd a sut mae'r ardal yn edrych ymlaen at Gemau'r Gymanwlad:
Dwy daith ar 'Y Waverley'
"Chydig dros flwyddyn a hanner yn ôl, ac yn byw ym Mhenarth, ces y cyfle i fynd ar y llong Waverley i Clevedon. Feddylies i rioed y byswn yn mynd ar yr un agerlong i Rothesay, Bute ac yn byw yn Helensburgh yn yr Alban chwe mis yn ddiweddarach.
Pam dwi yma dudwch? Wel mae'r gwelliannau syfrdanol a pharhaol o ran cysylltiadau technolegol, ynghyd a'r modd i deithio'n effeithiol a chymharol rad rhwng y ddwy wlad, yn golygu ei bod hi'n hollol ymarferol byw rhyw 40 munud i'r gogledd orllewin o faes awyr Glasgow a chynnal fy musnes Technoleg Gwybodaeth yn Ne Cymru. Pan gafodd fy mhartner y cynnig i brynu siop ar y brom Helensburgh roedd y cyfle i fudo i ardal mor debyg i Eryri yn ormod o demtasiwn.
Dylanwad y môr
Mae Helensburgh ar ochrau aber Afon Clud (y Clyde) lle mae'n cael ei chyfri fel Loch forol ac yn rhyw 8 milltir o Luss ar Loch Lomond i'r dwyrain. I'r gogledd mae Loch Gare, Loch Long ac ymylion Parc Cenedlaethol y Trossachs. Cafodd y dref ei sefydlu a'i datblygu gyda phres mawr diwydiannau trwm y Clyd ac mae hi'n dal yn rhyw feddwl ei bod 'chydig yn bwysicach na threfi cyfagos gyda'r tai, anferth, crand.
Pan gyrhaeddais, prin fedrwn goelio'r tebygrwydd daearyddol rhwng Helensburgh a Phenarth. Y ddau ar yr arfordir ac yn edrych tuag at fwrlwm yr ochr arall i'r dwr, sef Minehead, Weston a Clevedon dros yr Hafren ac yma Port Glasgow, Greenock a Gourock.
Amser cyffrous
Rwy'n lwcus o gyrraedd yma ar adeg mor gynhyrfus hefyd gyda'r Refferendwm a Gemau'r Gymanwlad yn ddigwyddiadau mor arwyddocaol ar y gorwel. Wrth gwrs, mae'r Refferendwm yn sicr o effeithio poblogaeth yr Alban yn gyfangwbwl - a thu hwnt hefyd - ond mae dyfodiad y Gemau yn fater mwy lleol i Glasgow a'r cyffiniau.
Yn sicr mae Glasgow yn edrych ymlaen i groesawu'r cenhedloedd gyda'u mabolgampwyr, dynion siwts a'r cefnogwyr hefyd, gyda phwyslais mawr ar y croeso... "People Make Glasgow".
Gwaddol
Mae'r ddinas yn orlawn o faneri a phosteri, pabelli, blodau a dal 'chydig o JCBs a chraeniau. Ydy, mae Glasgow wedi gwario cryn dipyn ar adnewyddu'r is-strwythur o gwmpas y ddinas. Mae rhananu o'r maes awyr wedi cael ei ail-adeiladu i bob pwrpas gyda charpedi ac addurniadau newydd drwyddo.
Mae'r gorsafoedd rheilffordd pwysig i gyd wedi cael adfywiad ac mae nifer o rai eraill wedi cael côt newydd o baent. Mae amryw o'r stadia wedi cael eu tyrchu i fyny a'u hail osod ac yn edrych yn wych. Gyda lot o son am waddol digwyddiadau fel hyn mae'n amlwg fod poblogaeth ac ymwelwyr i Glasgow yn mynd i gael budd o'r gwariant yn syth bin - cyn i'r Gemau ddechrau hyd yn oed.
Difaterwch?
Sut mae lle fel Helensburgh yn edrych ymlaen i'r Gemau fodd bynnag? Wel, yn debyg iawn i'r Gemau Olympaidd yn Llundain, mae'r elfen o ddifaterwch yn cynyddu fel yr ydych yn mentro mwyfwy o'r ddinas ei hun. Mae hynny yn naturiol, siwr o fod. Fallai nad yw'r campau yn ddigon poblogaidd i greu cynnwrf.
Does dim dwywaith bod pawb yn ymwybodol o'r Gemau ond nid yw'r boblogaeth yn rhyw siwr beth i ddisgwyl. Yn sicr chwaith does dim cynnwrf o ran busnesau yn y dref a dydyn nhw ddim yn rhagweld cynnydd yn y gwariant dros y dyddiau nesaf.
Er bod yna dystiolaeth bod mwy o brysurdeb na'r arfer yn y sector letya mae yna amheuaeth fawr a fydd yr ymwelwyr o bob cwr o'r Gymanwlad yn ymweld â'r ardaloedd y tu hwnt i ddinas Glasgow.
Efallai cawn ein synnu ar yr ochr orau! Cawn weld yn go fuan.
Pob lwc i garfan Cymru!