Beirniadu 'arafwch' Cyngor Sir Caerfyrddin
- Published
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cwyno am yr hyn y maen nhw wedi ei ddisgrifio fel "arafwch" Cyngor Sir Caerfyrddin wrth gyflwyno argymhellion gafodd eu llunio i ymateb i'r cwymp o 6% yn y nifer o siaradwyr Cymraeg yn y Sir.
Yn Sir Gaerfyrddin y gwelwyd y cwymp mwyaf ymhlith siroedd Cymru o ran nifer y siaradwyr Cymraeg yn ôl y Cyfrifiad diweddaraf dair blynedd yn ôl.
Mae BBC Cymru yn deall y bu cynrychiolwyr o'r Gymdeithas yn cwrdd â'r Cyngor y bore 'ma i drafod gweithredu argymhellion Gweithgor y Cyfrifiad.
Fe gafodd y gweithgor ei sefydlu ar ôl i ganlyniadau'r Cyfrifiad yn 2011 ddangos mai dim ond 43.9% oedd bellach yn siarad Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin (50.3% oedd yn 2001).
Ym mis Ebrill, fe benderfynodd cyfarfod llawn o'r cyngor gefnogi adroddiad y gweithgor trawsbleidiol a gadeiriwyd gan y Cynghorydd Cefin Campbell o Blaid Cymru.
'Dim cynnydd'
Mae Panel Ymgynghorol wedi bod yn cwrdd ers i'r adroddiad gael ei dderbyn, ond yn ôl y Gymdeithas "ni wnaed unrhyw gynnydd o ran cynllun i weithredu'r strategaeth iaith... ac ni fydd yn cyfarfod eto tan ddiwedd mis Medi neu ddechrau Hydref.
"Erbyn hynny, bydd pum mis llawn o ddiffyg gweithredu gan y Cyngor..."
Yn ôl Bethan Williams, mae gan y cyngor "un cyfle hanesyddol" i gryfhau sefyllfa'r Gymraeg yn Sir Gâr ond nad oedd y Gymdeithas wedi "gweld unrhyw gamau penderfynol" i weithredu.
"Beth 'da ni eisiau gweld gan y cyngor yw arweiniad," meddai.
Yn ôl Cyngor Sir Gâr, roedd y trafodaethau fore Mawrth yn rhai "adeiladol" ond doedden nhw ddim am ymateb i'r feirniadaeth gan Gymdeithas yr Iaith.
Straeon perthnasol
- Published
- 15 Ebrill 2014
- Published
- 25 Mawrth 2014
- Published
- 4 Medi 2013