BBC Cymru Fyw

Cymru XI: Tîm Malcolm Allen

Published
image captionGOLWR: Paul Jones: "Anodd iawn oedd olynu'r golwr gorau yn y byd, ond Paul Jones ydi’r gorau rydan ni wedi ei gael ers Neville Southall."
image captionCEFNWR DE: Mark Delaney: "Amddiffynnwr a oedd cynnig ei hun, yn gyflym, ac yn gallu ymosod lawr yr ochr dde."
image captionCANOL YR AMDDIFFYN: Ashley Williams: "Ers ei gap cyntaf mae wedi bod yn chwaraewr cryf a dibynadwy, ac yn gallu darllen y gêm yn effeithiol."
image captionCANOL YR AMDDIFFYN: Chris Coleman: "Hefyd yn gallu darllen y gêm yn dda iawn. Doedd Chris ddim ofn cymryd cyfrifoldeb a phigo chwaraewyr yn y cwrt cosbi."
image captionCEFNWR CHWITH: Ben Davies: "Heb weld y gorau ohono hyd yma, ond dydw i dal heb weld asgellwr yn cael y gorau o Ben. Mae’n gyflym ac yn gryf ac mae o bellach yn fwy ymwybodol o be sy'n digwydd o'i gwmpas fel amddiffynnwr."
image captionCANOL CAE: Gary Speed: (Capten) "Chwaraewr hynod o broffesiynol gyda phresenoldeb enfawr. Roedd Speed yn ffynnu hefo'r cyfrifoldeb o fod yn gapten."
image captionCANOL CAE: Aaron Ramsey: "Mor glyfar, a'r gallu ganddo i ffeindio ‘pocedi’ a'r gallu ganddo i sgorio goliau ar adegau pwysig. Un o’r gorau yn yr Uwch Gynghair am amseru ei rediadau."
image captionCANOL CAE: Ryan Giggs: "Creadigol a thu hwnt o ddawnus. Nid yn unig yr oedd yn gweld pas y byddai eraill ddim, ond yn gallu creu lle i eraill hefyd. Wrth gwrs roedd ganddo lygaid am gôl."
image captionASGELL DDE: Craig Bellamy: "Ddim yn sgoriwr naturiol, ond roedd ei gyflymder yn dychryn unrhyw amddiffyn. Chwaraewr brwdfrydig a oedd efo’r gallu i ysbrydoli ei gyd-chwaraewyr."
image captionASGELL CHWITH: Gareth Bale: "Yn syml iawn, un o’r chwaraewyr gorau dwi erioed wedi ei weld. Mae’r gallu ganddo i ennill gêm ar ben ei hun ar y lefel uchaf, fel rydan ni wedi ei weld yn gwneud droeon dros Real Madrid a Chymru."
image captionYMOSODWR: John Hartson: "Cryfder i gadw'r bêl, a'r gallu ganddo i ddod â chwaraewyr eraill i mewn i’r gêm. Roedd yn gryf iawn yn yr awyr, yn opsiwn gwahanol o fewn y garfan, ac yn gallu sgorio goliau hefyd."
image captionY chwaraewyr a ddaeth yn agos
image captionWayne Hennessey
image captionMark Pembridge
image captionJoe Allen
image captionSimon Davies