Llai o arian i ganolfannau dysgu Cymraeg

Ioan Talfryn
Image caption Mae Ioan Talfryn yn rhybuddio am effaith debygol y toriadau

Mae prif weithredwr cwmni sy'n darparu addysg Gymraeg i oedolion wedi rhybuddio y gallai toriadau ariannol i'r sector olygu bod swyddi'n cael eu colli.

Yn siarad ar y Post Cyntaf ddydd Mercher, dywedodd Ioan Talfryn ei fod yn debygol y bydd yna hefyd lai o ddosbarthiadau'n cael eu cynnig yn y dyfodol.

Mae'n ymddangos bod y sector yn wynebu toriadau o hyd at 15% dros y flwyddyn nesa'.

Mae Cymdeithas yr Iaith a Dyfodol i'r Iaith wedi beirniadu'r penderfyniad.

Swyddi yn y fantol

Fis Ionawr cafodd y canolfannau wybod y byddai yna doriad o 8% i'w cyllidebau ar gyfer y flwyddyn academaidd 2014/15.

Nawr mae Llywodraeth Cymru wedi anfon llythyr yn dweud y bydd 'na doriad pellach o 7%.

Yn ôl y llythyr, roedd y prif weinidog a'r gweinidog addysg "wedi gorfod dod i benderfyniad anodd i dorri'r dyraniadau Cymraeg i Oedolion" ymhellach.

Ioan Talfryn yw prif weithredwr Popeth Cymraeg, sydd â chanolfannau yn Llanrwst a Dinbych.

Meddai: "Roedden ni'n disgwyl toriad eleni a 'da ni wedi clywed rwan bod y toriad yn ddwbl yr hyn oeddan ni'n disgwyl.

"Be' mae'n ei olygu ydy, ers y Gynhadledd Fawr ma' Cymraeg i oedolion wedi gweld gostyngiad o £2.3 miliwn yn eu cyllideb yn genedlaethol.

Ychwanegodd y gallai'r sefyllfa olygu bod yn rhaid diswyddo staff: "Dydyn ni ddim yn hollol siŵr eto sut ydan ni fod i ad-drefnu yn unol â'r toriadau yma ond mi allai olygu bod staff yn mynd mewn sefydliadau, ac o bosib mae hynny'n anorfod.

"Mae rhai sefydliadau newydd benodi staff newydd ar y dybiaeth fod ganddyn nhw hyn a hyn o arian y flwyddyn nesaf ac yn sydyn iawn maen nhw'n ffeindio'u bod nhw'n colli falle £70,000 yn fwy nag oedden nhw'n ei ddisgwyl.

"Felly efallai bydd swyddi'n mynd ond efallai bydd rhaid torri nifer y dosbarthiadau oherwydd maen nhw'n costio arian i'w rhedeg."

'Iaith unigryw'

Image caption Mi osododd Cymdeithas yr Iaith bebyll o flaen y Senedd yn ddiweddar er mwyn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i newid eu polisïau iaith

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu'r toriadau, gan ddweud eu bod nhw'n codi cwestiynau ynghylch â pha mor ddibynadwy yw gair y prif weinidog.

Dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Pan gyhoeddodd Carwyn Jones ei fuddsoddiad honedig yn y Gymraeg fis diwethaf, mi geisiodd o adael yr argraff y byddai yna arian ychwanegol sylweddol.

"Er gwaetha'r holl sbin, mae'n debyg nad ydy'r Gymraeg yn ddigon o flaenoriaeth i'r Llywodraeth. Mae'r toriadau yma'n codi cwestiynau am ddidwylledd y Prif Weinidog.

"Mae cyfraniad Cymraeg i Oedolion yn bwysig er mwyn sicrhau bod pawb yn cael cyfle i fwynhau ein hiaith genedlaethol unigryw."

'Arbedion effeithlonrwydd'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y penderfyniad wedi ei wneud ar ôl ymgynghori helaeth, ac fel rhan o broses o ailflaenoriaethu.

"Rydyn ni'n cydnabod y gwaith pwysig mae'r rhaglen Cymraeg i Oedolion yn ei wneud, a byddwn ni'n gweithio gyda'r darparwyr dros yr wythnosau nesaf i weld beth fydd effeithiau tebygol y newidiadau yn y cyllid.

"Rydyn ni'n awyddus iawn i leddfu unrhyw anawsterau lle bynnag y bydd hynny'n bosibl.

"Rydyn ni hefyd yn ffyddiog y bydd y newidiadau arfaethedig i'r ffordd o weinyddu Cymraeg i Oedolion, gan gynnwys creu corff cenedlaethol newydd, yn arwain at arbedion effeithlonrwydd a fydd yn lleihau'r effeithiau yn y tymor hir."

'Angen treblu'r buddsoddiad'

Mae Dyfodol i'r Iaith wedi dweud y dylai'r arian sy'n cael ei wario ar Gymraeg i Oedolion gael ei dreblu.

Dywedodd cadeirydd y mudiad, Heini Gruffudd: "Dyw'r rhan fwyaf o'n cyrsiau ni ddim yn ddigon dwys, a does dim rhaglen eang gyda ni i ryddhau pobl o'r gwaith i ddysgu'r iaith.

"Yn ardaloedd llai Cymraeg Cymru mae angen rhaglen sy'n targedu rhieni er mwyn newid iaith y cartref, ac i wneud hynny bydd angen i rieni gael cyfnod i ffwrdd o'r gwaith. Mae angen mawr hefyd am sefydlu cadwyn o Ganolfannau Cymraeg i roi bywyd cymdeithasol newydd i'r iaith.

"Yn yr ardaloedd Cymraeg mae gan Gymraeg i Oedolion rôl allweddol wrth ddysgu'r iaith i fewnddyfodiaid.

"Mewn cyfnod o wanhad cymunedau Cymraeg, dyma'r union adeg i weithredu'n fentrus i ehangu darpariaeth Cymraeg i Oedolion."

Straeon perthnasol