Cyflog byw i holl staff y gwasanaeth iechyd yng Nghymru
- Published
Bydd pob aelod o staff y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn derbyn cyflog byw, yn dilyn cyhoeddiad y llywodraeth.
O ganlyniad, bydd gweithwyr yn derbyn o leiaf £7.65 yr awr - mwy na'r lleiafswm cyflog Prydeinig o £6.31 yr awr.
Mae disgwyl i'r newid effeithio tua 2,400 o weithwyr, a gall y newid gostio hyd at £15 miliwn i'r llywodraeth.
Bydd cyflogau'r rheolwyr uchaf yn cael eu rhewi.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford bod y newid yn dangos bod llywodraeth Cymru "wedi ymrwymo i daclo tlodi a bod GIG Cymru yn gyflogwr cyfiawn a theg".
Bydd ymgynghorwyr ac arbenigwyr yn derbyn cynnydd o 1% yn eu cyflogau, ond ni fydd y rheolwyr uchaf yn gweld unrhyw gynnydd.
Mewn amser o "bwysau ariannol ar y GIG", dywedodd Mr Drakeford bod angen i'r rheiny ar frig y raddfa gyflog "ysgwyddo eu rhan o'r baich".
Mae'r undeb Unsain wedi rhoi croeso gofalus i'r cyhoeddiad.
Dywedodd eu pennaeth iechyd, Dawn Bowden: "Tra'n bod ni'n gwerthfawrogi fod GIG Cymru mewn cyfnod heriol yn ariannol, dydyn ni ddim yn credu fod y cyhoeddiad tâl yn cynrychioli gwerth gweithwyr iechyd ledled Cymru mewn ffordd foddhaol.
"Er hynny, mi rydyn ni'n croesawu'r ymrwymiad gan y Gweinidog Iechyd i sicrhau fod bob gweithiwr o fewn y GIG yn cael o leiaf cyflog byw, rhywbeth mae Unison wedi galw amdano ers tro."
Bydd y newid yn dod i rym o fis Medi ymlaen.