Dysgwr y Flwyddyn: Yr ymgeiswyr
- Published
Nos Fercher bydd enw Dysgwr y Flwyddyn 2014 yn cael ei gyhoeddi mewn noson arbennig ym Mharc y Scarlets, Llanelli.
Mae pedwar ar y rhestr fer eleni, a dyma ychydig am eu cefndir a'r hyn a'u hysgogodd i ddysgu Cymraeg.
NIGEL ANNETT
Daw Nigel Annett o Ogledd Iwerddon yn wreiddiol, ond mae'n byw erbyn hyn yn Aberysgir, rhwng Aberhonddu a Phontsenni.
Aeth ati i ddysgu Cymraeg gan ei fod eisiau siarad gyda'i feibion, Elis a Rhys, yn eu mamiaith.
Dywed hefyd bod ei waith gyda'r cwmni nid-er-elw Glas Cymru, yn ogystal â hanes Tryweryn wedi'i ysbrydoli i ddysgu'r iaith.
Mae'n credu bod y Gymraeg yn rhan hanfodol o hunaniaeth Cymru.
SUSAN CAREY
O Lundain y daw Susan Carey yn wreiddiol, ond mae'n byw yn Nhrefdraeth, Sir Benfro, ers bron i 30 mlynedd bellach.
Aeth ati i ddysgu Cymraeg gan ei bod yn awyddus i chwarae rhan lawn ym mywyd cymunedol ei hardal, ac roedd hi'n awyddus i sicrhau nad oedd angen i bobl newid i'r Saesneg er mwyn ei chynnwys mewn sgwrs.
Bu'n gweithio fel tiwtor Technoleg Gwybodaeth i Gyngor Sir Penfro, ond mae hi bellach wedi ymddeol. Mae hi hefyd yn ysgrifennydd y gangen leol o Ferched y Wawr ac yn ysgrifennu colofn fisol i'w phapur bro, Clebran.
HOLLY CROSS
Ganed Holly Cross yng Nghaerfyrddin, ond symudodd y teulu i Wlad yr Haf pan oedd hi'n ddwy oed, a chafodd ei magu a'i haddysgu yn Lloegr.
Dychwelodd i Gymru yn 2000, i astudio ym Mhrifysgol Abertawe.
Dechreuodd fynd ati i ddysgu Cymraeg ar ôl symud i Gaerdydd a chael swydd yn Adran Hanes y Brifysgol.
Symudodd wedyn i fyw i gymuned Gymraeg yn Sir Benfro bum mlynedd yn ôl ac aeth ati i barhau i ddysgu'r iaith.
JOELLA PRICE
O Bort Talbot y daw Joella Price yn wreiddiol, ac ar ôl treulio blynyddoedd yn byw yn America, Awstralia, Lloegr a Malta, dychwelodd i Gymru ddwy flynedd yn ôl.
Dysgodd ychydig o Gymraeg yn yr ysgol, ond nid digon iddi allu cynnal sgwrs na fod â'r hyder i wneud unrhyw beth gyda'r iaith.
Dychwelodd i Gymru i weithio yn yr uned gofal dwys yn Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd, ac roedd hyn yn gyfle iddi ailgydio yn y Gymraeg.
Mae hi nawr yn defnyddio'r Gymraeg yn ei gwaith gyda chleifion bob dydd, ac mae'n falch o allu gwisgo bathodyn Iaith Gwaith ar y ward.
Am fwy o'r Brifwyl, ewch i'n gwefan Eisteddfod.