Chwilio am fachgen 14 oed
- Published
image copyrightHeddlu gwent
Mae Heddlu Gwent yn chwilio am fachgen 14 oed sydd wedi bod ar goll ers 4 Gorffennaf.
Gwelwyd Curtis Gingell y tro diwethaf am 21:00 yn Oakdale. Mae'r heddlu yn dweud bod ganddo gysylltiadau yn ardaloedd Tredegar Newydd a Rhymni.
Cafodd Curtis ei ddisgrifio fel bachgen gwyn, tenau a thua 5"7 o daldra. Mae ganddo wallt golau ac mae'n gwisgo sbectol.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth alw 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 511 04/07/14.