Airbus allan er gwaetha'i dewder

  • Cyhoeddwyd

Mae Airbus wedi colli eu gêm yn erbyn FK Haugesund yn Norwy, sy'n golygu eu bod allan o Gynghrair Ewropa.

Fe chwaraeon nhw'n dda mewn cyfnodau ac fe wnaethon yn dda i ddod 'nôl mewn i'r gêm ar ôl i'r tîm cartref fynd ar y blaen drwy gôl Torbjorn Agdestein.

Llwyddodd Mike Pearson i'w gwneud hi'n gyfartal gydag ergyd bwerus o gic gornel, aeth i gefn y rhwyd o ryw 12 llath.

Ond daeth gôl fuddugol y Norwyiaid ar ôl 56 munud gan Maic Sema.

Cafodd Jordan Barrow ei hel o'r cae yn fuan wedyn am gael ail gerdyn melyn.

Y sgôr ar ôl y ddau gymal oedd 3-2 gan fod Airbus wedi llwyddo i gael gêm gyfartal 1- 1 yn y cymal cyntaf.

Mae Bangor ac Aberystwyth ill dau yn wynebu talcen caled o geisio gwyrdroi diffyg o bedair gôl yn eu gemau Ewropeaidd nhw.