Achub merch oedd yn sownd rhwng y creigiau ar draeth
- Published
Mae merch naw oed wedi ei hachub ar ôl iddi ddod yn sownd rhwng y creigiau wrth chwarae.
Roedd yn rhaid torri esgidiau glaw'r ferch iddi allu dod yn rhydd. Cafodd yr ymdrech achub ei disgrifio fel un ddramatig am fod y llanw yn dod i mewn.
Mi aeth y ferch yn sownd yn Aberaeron, Ceredigion brynhawn Iau.
Gwirfoddolwr oedd ar ei alwad cyntaf wnaeth helpu i achub y ferch.
Roedd Ben Billingham o'r RNLI hefyd yno. Mae'n canmol y ffordd wnaeth Tom Evans, 17 ymateb i'r sefyllfa. "Mi wnaeth Tom job wych o gropian lawr i'r graig i nol y ferch.
"Mi wnaeth o dorri ei esgidiau glaw fel ei fod o'n medru ei gwthio hi ymlaen a'i rhyddhau hi am fod y llanw yn dod i mewn."
Ychwanegodd: "Rydyn ni jest yn falch fod yna ddiweddglo positif ac mi oedd hi'n bendant yn alwad gyntaf diddorol i Tom."