Christopher Parry: Carchar am oes
- Published
image copyrightWales News Service
Mae dyn o Gwmbrân wnaeth saethu ei wraig yn farw wedi ei ddedfrydu i garchar am oes.
Mi fydd Christopher Parry dan glo am o leiaf 26 mlynedd.
Cafodd ei ganfod yn euog o lofruddio Caroline Parry ddydd Mawrth.
Cafodd y fenyw 46 oed ei saethu yn ei chefn tu allan i'w chartref yng Nghasnewydd ym mis Awst y llynedd.
Clywodd y llys fod Parry yn hoff o reoli pobl ac nad oedd yn gallu derbyn bod ei wraig wedi gorffen eu perthynas.
Straeon perthnasol
- Published
- 9 Gorffennaf 2014