'Un cam bach i ddyn...'

Buzz Aldrin yn sefyll ar y lleuad, 20 Gorffennaf 1969 Image copyright Reuters
Image caption Buzz Aldrin ar y lleuad - Neil Armstrong oedd yn tynnu'r llun

Mae hi bellach yn 45 mlynedd union ers i aelod o'r ddynol ryw gyffwrdd y lleuad am y tro cyntaf.

Cymysg oedd teimlad y cyhoedd tuag at hynny ar y pryd, gyda llawer yn teimlo y dylen ni ganolbwyntio ar wella bywyd ar y ddaear cyn dechrau meddwl am fynd i'r gofod. Mae'r gân Whitey on the Moon gan Gil Scott Heron yn rhoi syniad i ni o angerdd y teimlad yma.

Ond yn ystod y degawdau sydd wedi mynd heibio mae pobl yn dueddol o weld y gamp mewn golau mwy cadarnhaol, ac mae geiriau Neil Armstrong, "One Small Step for Man..." wedi eu seirio yn ein cof.

Mae'r byd wedi newid ers 1969, gyda thwf technoleg fyddai'n edrych fel hud a lledrith i drigolion y ddegawd honno. Ond sut mae perthynas dyn a'r gofod wedi newid?

A pha ddatblygiadau allwn ni ddisgwyl yn ystod y blynyddoedd a'r degawdau nesaf?

Ysbio a pharatoi

Image copyright corbis
Image caption Mae Ronald Reagan yn cael ei gofio am ei ymdrechion i filwreiddio'r gofod

Mae Bleddyn Bowen yn fyfyriwr doethuriaeth gyda Phrifysgol Aberystwyth sy'n arbenigo mewn astrostrategaeth a rhyfela yn y gofod.

Dywedodd wrth Cymru Fyw mai un o'r datblygiadau mwyaf amlwg o ran y gofod yn y degawdau diwethaf yw nifer y lloerennau sydd bellach mewn orbit o amgylch y ddaear.

"Nôl yn ystod y Rhyfel Oer, pan roedd lloerennau'n cael eu rhoi lan yn y lle cyntaf, y prif amcan oedd gallu tynnu lluniau o bethau ar y ddaear," meddai Mr Bowen.

"Fe wnaeth America ddatblygu system Corona ar gyfer tynnu lluniau canolfannau milwrol a safleoedd taflegrau yr Undeb Sofietaidd.

"Un defnydd hanesyddol arall o ran systemau gofod yw ar gyfer cael rhagrybudd bod rhywbeth ar y ffordd, fyddai'n rhoi ychydig o amser, beth bynnag, i lywodraeth baratoi am ymosodiad gan daflegryn neu fom atomig.

"Dyna oedd y ddau bwrpas gwreiddiol ar gyfer lloerennau, ac maen nhw'n dal i gael eu defnyddio ar gyfer hynny hyd heddiw."

Sbwriel yn y ffurfafen

Image caption Yr ISS yw'r gwrthych drytaf yn hanes y byd o bell ffordd

Erbyn hyn mae rhyw 2,465 o loerennau mewn orbit o amgylch y ddaear, ond yn ychwanegol i hyn mae oddeutu 500,000 o ddarnau o sbwriel gofodol, neu space junk.

Mae hyn, fel y gallwch ddychmygu, yn beth drwg.

Daeth trychineb yn agos at ddigwydd yn 2011, pan ddaeth rhywbeth - ŵyr gwyddonwyr ddim beth - o fewn 335 medr i daro'r Orsaf Ofod Ryngwladol (ISS), gorsaf oedd â phobl ar ei bwrdd ac sydd werth rhyw £90 biliwn.

Digwyddodd rhywbeth tebyg yn 2012 hefyd.

Bydd y broblem yma ond yn gwaethygu, yn ôl Mr Bowen.

"Mae yna ddamcaniaeth wyddonol o'r enw'r Kessler syndrome," meddai, "sy'n dweud: hyd yn oed os ydyn ni'n stopio lansio i'r gofod yfory mae yna dal ddigon o loerenni a jync mewn orbit isel o amgylch y ddaear i gael twf ysgubol, ac erbyn y 23ain ganrif mi fydd tua dwbl maint y jync sydd yna nawr...

"Ac mae hynny os ydan ni'n gwneud dim byd."

Image copyright AFP
Image caption Sut fyddech chi'n mynd ati i ddatrys y broblem?

Ond, er ein bod yn araf yn ymateb i'r broblem gan ei bod hi'n un mor gymhleth a drud, mae nifer o atebion wedi cael eu cynnig yn ddiweddar, o'r mawreddog (creu tennyn trydanol enfawr i ddenu darnau o'r sbwriel i orbit fwy diogel), i'r uchelgeisiol (zapio'r sbwriel gyda laser) i'r hollol wallgof (creu wal o iâ yn y gofod).

Nid llywodraethau'n unig sy'n gweithio ar y mater - yn ddiweddar bu adroddiad ar y BBC World Service am gwmni preifat sy'n ceisio gwneud busnes allan o'r broblem.

Mae canran sylweddol - rhyw 20% - o'r sbwriel gofodol yn deillio o un prawf gafodd ei gynnal gan China yn Ionawr 2007.

Bryd hynny fe saethodd y wlad loeren dywydd i lawr gyda thaflegryn er mwyn profi i'w hunain, ac i weddill y byd, ei bod hi'n wlad y dylid ei chymryd o ddifri cyn belled ag mae technoleg fodern yn y cwestiwn.

"Fe wnaeth hynny greu storm wleidyddol enfawr yn erbyn y wlad, achos fod pawb wedyn yn gorfod pryderu am y darnau bach yn bwrw eu pethau," meddai Mr Bowen, sydd wedi cyhoeddi erthygl ar y pwnc yn Astropolitics.

Rhyfel o'r gofod?

Image copyright Thinkstock
Image caption Mae'n anghyfreithlon rhoi arfau niwclear yn y gofod

Gyda thymhestloedd gwleidyddiaeth ryngwladol yn corddi unwaith eto rhwng y gorllewin a Rwsia, pa ran, os o gwbl, allai systemau gofodol chwarae mewn unrhyw wrthdaro?

"Mae lluoedd arfog America yn enwedig wedi datblygu i fod yn ddibynnol ar y systemau yma, bron yn gyfan gwbl," meddai Mr Bowen.

Lloerennau yw'r rhain, unwaith eto, o systemau GPS i gamerâu pwerus, sy'n rhoi mantais i'w perchnogion ar faes y gad.

Mae'r Cytundeb Gofodol - gafodd ei arwyddo'n wreiddiol gan America, yr Undeb Sofietaidd a'r DU nôl yn 1967 - yn gwahardd gwladwriaethau rhag rhoi arfau niwclear ac arfau o ddinistr torfol mewn orbit.

"Y pwynt pwysig yw bod y cytundeb ond yn gwahardd y mathau penodol hynny o arfau," meddai Mr Bowen.

"Mae systemau fel kinetic kill, lansio taflegrau wrth i bethau fwrw mewn i loerennau, fel sy'n cael eu defnyddio gan y Rwsiaid a China - mae hynny'n gyfreithlon.

"Mae lasers yn gyfreithlon a ffrwydradau yn gyfreithlon hefyd."

Image caption 'Edrychwch ar hwn, wleidyddion'

Felly a oes arfau peryglus wedi eu gosod yn y gofod?

"Mae'n dibynnu i bwy chi'n gofyn.

"Gall lloeren sy'n edrych yn ddigon heddychlon gael ei defnyddio fel arf ramio, gyda digon o danwydd.

"Mae hwn yn cael ei alw'n broblem dual use - y posibiliad fod systemau sy'n edrych yn ddigon diniwed yn cael eu defnyddio i ddibenion ymosodol."

Daw hyn a dyfyniad gan y gofodwr Edgar Mitchel, a oedd yn rhan o griw Apollo 14, i'r cof.

Dywedodd yn y cylchgrawn People nôl yn 1974: "Pan rydych yno ar y lleuad, mae gwleidyddiaeth ryngwladol yn edrych mor petty.

"Mae'n gwneud i chi fod eisiau gafael mewn gwleidydd gerfydd ei war, ei lusgo chwarter miliwn o filltiroedd yno a dweud wrtho, 'Edrych ar hwnna, y diawl!'"

Hefyd ar y BBC