Mjadzelics yn pledio'n ddieuog
- Published
Mae Joanne Mjadzelics, 38 wedi pledio'n ddieuog i saith cyhuddiad sy'n ymwneud â lluniau anweddus o blant, yn Llys y Goron Caerdydd.
Mae hi'n wynebu chwe chyhuddiad o feddu ar a dosbarthu lluniau anweddus o blant ac un o annog rhywun arall i ddosbarthu llun anweddus o blentyn.
Daw'r cyhuddiad yn sgil Ymgyrch Globe, gafodd ei sefydlu o ganlyniad i'r canfyddiad bod Ian Watkins, cyn ganwr y band LostProphets, wedi cam-drin plant yn rhywiol.
Mae'r achos wedi ei restru ar gyfer Ionawr 2015.
Straeon perthnasol
- Published
- 21 Mawrth 2014
- Published
- 5 Mawrth 2014