Cyffordd Dolgellau: damwain arall
- Published
Mae damwain arall wedi digwydd ar gyffordd Dolgellau yn fuan ar ôl i nifer o bobl dynnu sylw at ba mor beryglus yw'r sefyllfa yno.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 13:18 yn dilyn adroddiadau bod gwrthdrawiad rhwng dau gar ar y gyffordd rhwng yr A470 a'r A494.
Cafodd ambiwlans awyr ei alw ac mae'r ffordd wedi ei chau i'r ddau gyfeiriad.
Mae tri o bobl wedi cael eu hanafu, yn ôl adroddiadau, gan gynnwys un ddynes sydd wedi cael ei chludo i Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.
Ffordd 'beryg'
Daw'r ddamwain ddiweddaraf ddyddiau'n unig wedi i feiciwr modur farw mewn damwain.
Roedd Kevin Haddock o Birmingham yn 54 oed a chyda grŵp o'i ffrindiau pan fu mewn gwrthdrawiad gyda Ford Focus dros y penwythnos.
Mae adroddiadau'n awgrymu fod ei deulu yn rhoi blodau er cof amdano ar safle'r ddamwain pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad diweddaraf.
Fis Mai bu farw John Roach o Fanceinion ar yr un gyffordd wedi damwain rhwng ei gar a lori sbwriel.
Ateb tymor byr
Mae dros 800 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu.
Nos Iau dywedodd Delwyn Evans, Maer Dolgellau, wrth Newyddion 9 fod y ffordd yn "beryg" a bod angen cylchfan yno ar frys.
Dywedodd yr Aelod Cynulliad lleol, Dafydd Elis-Thomas, ei fod yn trafod y mater â'r llywodraeth a'i fod eisiau i rywbeth gael ei wneud fel ateb tymor byr.
Roedd Mr Elis-Thomas wedi ysgrifennu at y Gweinidog Trafnidiaeth Edwina Hart fore dydd Gwener er mwyn nodi ei bryderon.
Mae'r llythyr yn dweud: "Tra'n gwerthfawrogi'r defnydd diweddar o linellau gwyn er mwyn cyfyngu ar fynediad, mae teimlad cryf yn lleol bod hyn yn gallu cyfrannu at yr ansicrwydd i deithwyr.
"Felly mi hoffwn i chi ystyried cyflwyno dau gylchfan, un ar gyfer cyffordd ar A494 a'r llall ar gyfer yr A493, a hefyd edrych ar y ffordd allan oddi ar yr A470 a'r arwyddion ffyrdd presennol, gan fod pedwar man ymuno o amgylch Dolgellau sy'n gallu arwain at groesi llif y traffig."
'Monitro'r sefyllfa'
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb gan ddweud: "Mae ymchwiliad heddlu'n cael ei gynnal ar hyn o bryd i'r ddamwain ddigwyddodd ar gyffordd A470 / A494 y penwythnos diwethaf ac rydym yn gweithio gyda'r awdurdodau perthnasol er mwyn cynorwthyo'r ymchwiliad.
"Rydym yn ymwybodol o ddigwyddiad yn gynharach heddiw ac yn ystyried a fyddai mesurau pellach ar y rhan hon o'r ffordd yn briodol.
"Rydym wedi ymrwymo i wneud ffyrdd Cymru'n fwy diogel ac yn parhau i fonitro'r sefyllfa dros y rhwydwaith, gan gynnwys y rhan hon o'r ffordd."
Straeon perthnasol
- Published
- 11 Gorffennaf 2014
- Published
- 6 Gorffennaf 2014
- Published
- 23 Mai 2014