Rhanbarthau yn cynnig rheolaeth i Undeb Rygbi Cymru
- Published
Mae rhanbarthau rygbi Cymru wedi rhoi cynnig i Undeb Rygbi Cymru gymryd y rhanbarthau drosodd, ac maen nhw am sicrhau datrysiad i'r ddadl rhyngddynt erbyn 18 Gorffennaf.
Cafodd y cynnig ei wneud mewn llythyr gan gadeiryddion y rhanbarthau, Peter Thomas (Gleision), Martyn Hazell (Dreigiau), Roger Blyth (Gweilch) a Nigel Short (Scarlets).
Dan rhai amgylchiadau mae'n bosib y bydd rhaid i'r rhanbarthau werthu chwaraewyr.
Dywedon nhw os nad oes cytundeb: "Bydd rhaid i ni leihau ein costau chwarae a datblygu'r gêm."
Mae'n annhebygol y bydd URC yn derbyn y cynnig ac yn cymryd rheolaeth dros y gêm broffesiynol oherwydd sefyllfa ariannol y rhanbarthau.
'Goblygiadau clir'
Yn y llythyr gan y corff sy'n cynrychioli'r rhanbarthau - Regional Rugby Wales (RRW) - dywedodd y cadeiryddion: "Bydd goblygiadau clir i URC yn nhermau cadw chwaraewyr Cymru, o ran cyfnodau rhyddhau i gemau rhyngwladol ychwanegol.
"I'r rhanbarthau buasai rhaid i ni leihau ein costau chwarae a datblygu yn unol â'r goblygiadau ariannol fydd hynny'n eu golygu i ni.
"Yn anffodus dyna yw realiti caled y sefyllfa yr ydyn ni ynddo a'r berthynas sydd gennym ni gydag URC."
Daeth y cytundeb chwarae diwethaf rhwng URC ac RRW i ben ar 30 Mehefin, gan adael y rhanbarthau yn credu eu bod yn wynebu diffyg o £6.7m y tymor nesaf.
Roedd y cytundeb yna yn sicrhau rhyddhau chwaraewyr i hyfforddi i Warren Gatland a Chymru cyn gemau'r hydref, Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a'r pedwerydd prawf yn yr hydref sydd yn aml yn cael ei gynnal y tu allan i'r cyfnod y mae'r Bwrdd Rygbi rhyngwladol yn ei ganiatáu.
Os nad oes cytundeb fe all y rhanbarthau sicrhau bod Cymru yn wynebu De Affrica ar 29 Tachwedd heb chwaraewyr y rhanbarthau.
'Realiti cadarn'
Yn eu llythyr, dywedodd y cadeiryddion: "Rydyn ni wedi bod yn trafod gydag URC am gyfnod sylweddol.
"Ond rydyn ni wedi dod i ganlyniad mai'r realiti cadarn yw nad oes gan URC ddiddordeb mewn cwblhau'r trafodaethau gyda'r rhanbarthau a sicrhau cytundeb tymor-hir i wella rygbi Cymru."
Mae'r pedwar yn parhau i ddweud:
- Er rhai amheuon eu bod nhw wedi derbyn - am y tro cyntaf - y syniad o gytundebau deuol i sêr y tîm rhyngwladol;
- Ar y mater o ariannu'r rhanbarthau, os nad oes cytundeb bydd rhaid iddyn nhw weithredu o fewn eu gallu ariannol a bod yn llai cystadleuol yn erbyn timau Ewrop a'r Pro12;
- Bod y berthynas rhwng y clybiau mwyaf ac URC yn "warth cenedlaethol";
- Mai "gwir amcan" URC yw i "ddifetha'r rhanbarthau" yn ariannol;
- Nad yw amcanion URC a'r rhanbarthau yn anghytûn;
- Bod angen i unrhyw gytundeb olygu partneriaeth;
- Ar gyfer datblygu chwaraewyr i Gymru, dylai'r rhanbarthau gael "gwobr ddigonol".
Dywedodd y cadeiryddion y gallen nhw fod yn gryf gyda'i gilydd, ond na allen nhw barhau dan y drefn bresennol.
'Cefnogi'r rhanbarthau'
Ychwanegon nhw mai'r dewis arall oedd i URC wneud "cynnig teg" i gymryd rheolaeth dros y rhanbarthau, gan ddweud nad oes ganddyn nhw unrhyw opsiwn arall.
Dechreuodd y ffrae rhwng yr Undeb a'r rhanbarthau dros flwyddyn a hanner yn ôl.
Fe wnaeth cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, David Pickering esbonio eu safbwynt ym mis Mai:
"Byddwn yn gwneud unrhyw beth y gallwn i gefnogi ein rhanbarthau, ond gallwn ni ddim gwneud yr undeb yn fethdalwr.
"Bydd swm penodol o arian i'w roi i'r gêm ar lefel rhanbarthol, lefel rhannol-broffesiynol ac ar lefel gymunedol."
Straeon perthnasol
- Published
- 9 Gorffennaf 2014
- Published
- 16 Mehefin 2014
- Published
- 22 Mai 2014