Tafwyl: Canolfan Gymraeg newydd i Gaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae cynlluniau wedi eu cyhoeddi i sefydlu canolfan newydd yng Nghaerdydd er mwyn hyrwyddo'r iaith Gymraeg yno.
Fe ddaeth y cyhoeddiad ar ddechrau ffair Tafwyl, gwyl gymunedol Caerdydd.
Yn ôl Cyngor Caerdydd byddai 'Gofod y Gymraeg' yn ganolbwynt i bobl fedru cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau a phrofiadau yn ymwneud a'r Gymraeg. Y bwriad yw sefydlu'r ganolfan addysgiadol a chymdeithasol yng nghanol y ddinas.
Menter Caerdydd fydd yn arwain y prosiect. Dywedodd eu Prif Weithredwr Sian Lewis "Mae'r cynllun yma yn un hynod o gyffrous ac rydym wrth ein bodd yn chware rhan ganolog yn ei datblygiad.
"Ein gobaith yw y bydd y lleoliad yn arwyddocaol ac un croesawgar i bobl Caerdydd ac ymwelwyr o Gymru a thu hwnt. Mae Tafwyl yn arwydd o lwyddiant y Gymraeg yn y brifddinas ac mae'n wych gweld Cyngor Caerdydd yn cefnogi twf yr iaith yma mewn ffordd ymarferol a strategol."
Cafodd yr ŵyl yn cael ei hagor yn swyddogol gan y Prif Weinidog Carwyn Jones ddydd Sadwrn, ac mae wedi disgrifio'r digwyddiad fel rhan o'i ymrwymiad i "sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn iaith fyw sy'n cael ei defnyddio yn y gymuned".
Dyma'r trydydd tro i Tafwyl gynnal y ffair ar dir y castell ynghanol y ddinas, ond eleni y mae'n ehangu ei gorwelion wrth i'r dathliadau symud tu allan i furiau Castell Caerdydd, i Heol y Castell sydd gerllaw.
Ar y brif lwyfan fe fydd Bryn Fôn a'r Band, Bob Delyn, Candelas, Yr Ods ac Endaf Gremlin.
Y syniad yw ceisio denu rhai o drigolion di-Gymraeg y ddinas ac ymwelwyr, drwy ddarparu awyrgylch carnifal ar lwyfan newydd fydd yn cynnwys bandiau ffync, jazz, gwerin, pres a drymiau dur.
Ac yn ystod yr wythnos bydd gweithgareddau llenyddol, celf a chrefft, sesiynau coginio, drama a cherddoriaeth i'w clywed mewn amryw o leoliadau yn y ddinas.
Pobi a rygbi
Mae nifer o weithgareddau eraill wedi cael eu trefnu am y tro cyntaf hefyd, gan gynnwys cystadleuaeth bobi wedi ei beirniadu gan Beca Lyne-Pirkis, oddi ar sioe boblogaidd y BBC, The Great British Bake Off.
Ar gyfer pobl ifanc bydd gweithdai chwaraeon yn cael eu cynnal gan Undeb Rygbi Cymru, Cymdeithas Pêl Droed Cymru, Athletau Cymru a'r Gleision.
Yn ogystal bydd pabell ar gyfer llenyddiaeth, wedi ei threfnu gan Lenyddiaeth Cymru, a phabell yn ymwneud â'r celfyddydau, gyda Theatr Sherman, Theatr Genedlaethol Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru.
Dywedodd Gweinidog Diwylliant Llywodraeth Cymru, John Griffiths: "Mae Tafwyl yn chwarae rôl werthfawr iawn yn hyrwyddo'r iaith ac yn dangos i Gymry di-Gymraeg ei bod hi'n iaith fyw ac un y gall pawb ei mwynhau a bod yn falch ohoni."
Hanes yr ŵyl
Cafodd Tafwyl ei sefydlu nôl yn 2006 gan Fenter Caerdydd er mwyn ceisio codi ymwybyddiaeth o'r iaith yn y ddinas.
Roedd yn arfer cael ei chynnal yng ngardd tafarn y Mochyn Du, ger Gerddi Soffia, ond symudodd i'r castell yn 2012 wrth i faint ac uchelgais y fenter gynyddu.
Yn 2013 fe benderfynodd Cyngor Caerdydd roi'r gorau i roi nawdd i'r ŵyl, wrth iddyn nhw geisio arbed arian, ac roedd pethau'n edrych yn ddu am gyfnod.
Ond fe benderfynodd Llywodraeth Cymru gamu i'r adwy, gyda'r gweinidog oedd â chyfrifoldeb dros yr iaith ar y pryd, Leighton Andrews, yn disgrifio'r ŵyl fel "achos unigryw".
Mae'r £20,000 a roddwyd yn 2013 wedi cael ei roi eto eleni, a'r flwyddyn hon mae'r trefnwyr wedi llwyddo i sicrhau arian ychwanegol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Chyngor Celfyddydau Cymru - arian sydd wedi galluogi iddynt ehangu.
Mae'r holl fanylion ynglŷn â'r ŵyl i'w gweld ar wefan Tafwyl.
Straeon perthnasol
- 4 Mawrth 2014
- 12 Chwefror 2014
- 15 Mehefin 2013
- 13 Mehefin 2013
- 6 Chwefror 2013
- 1 Chwefror 2013