Prawf syndrom Down: Methiannau
- Published
Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod eu bod wedi cael trafferthion mawr wrth geisio cyflwyno profion sgrinio newydd ar gyfer syndrom Down.
Chwe blynedd ar ôl i ganllawiau gael eu cyhoeddi yn dweud y dylai pob gwraig feichiog gael prawf gwaed ac uwchsain, mae'r prawf newydd ar gael yn y gogledd yn unig.
Mae'r prawf uwchsain a gwaed newydd yn medru dod o hyd i anghysondebau mewn cromosomau, sydd yn cynnwys syndrom Down.
Mewn ateb ysgrifenedig yn y Cynulliad fe ddywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford fod y drefn sgrinio newydd yn cael ei gyflwyno yn raddol.
Yn ôl Mr Drakeford "mae cyflwyno'r prawf sgrinio yn gymhleth ac mae wedi bod yn heriol i'r byrddau iechyd".
Eglurodd fod y drefn newydd yn golygu cyfrifoldebau ychwanegol i fydwragedd, adrannau obstetreg a radioleg yn ogystal â gwaith ychwanegol i uwchraddio systemau gwybodaeth.
Dywedodd y Gweinidog: "Mae'r trefniadau yma wedi cymryd amser i'w gweithredu gan rai byrddau iechyd."
Cyfyng-gyngor
Mewn ymateb dywedodd yr Aelod Cynulliad Ceidwadol Antoinette Sandbach:
"Fe all y prawf ddod a'r ansicrwydd i ben i rieni sydd yn poeni y gallai eu plentyn gael ei eni a syndrom Down.
"Er fy mod yn hapus bod y prawf ar gael o'r diwedd yn y gogledd, mae cleifion mewn rhannau eraill i Gymru yn parhau i wynebu cyfyng-gyngor - naill ai mynd yn breifat neu dderbyn prawf llai effeithiol gan y Gwasanaeth Iechyd."
Straeon perthnasol
- Published
- 29 Awst 2010