Cynllun sgiliau 'mwyaf o'i fath ers datganoli'
- Published
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun 10 mlynedd i geisio sicrhau bod gan weithwyr Cymru fwy o sgiliau
Bydd 'Porth Sgiliau' - ar gael ar-lein, dros y ffôn a wyneb-yn-wyneb - yn cynnig "gwasanaeth di-dor i fusnesau sy'n chwilio am gymorth sgiliau".
Y bwriad yw y bydd amrywiaeth o raglenni datblygu sgiliau ar gael mewn un lle, gan olygu y bydd hi'n haws i gyflogwyr sicrhau bod gan eu staff y sgiliau cywir ar gyfer y gwaith.
Yn ôl y llywodraeth, hwn yw'r cynllun "mwyaf o'i fath ers datganoli".
'Rhannu cyfrifoldeb'
Dywedodd Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: "Os yw Cymru am gystadlu yn yr economi fyd-eang, rhaid i ni gael system gynaliadwy lle mae'r llywodraeth, cyflogwyr ac unigolion yn rhannu cyfrifoldeb am sgiliau.
"Rydyn ni wedi gwrando ar farn ein cyflogwyr wrth fynd ati i ddatblygu'r cynllun hwn ac rydyn ni hefyd wedi pennu nifer o gamau a fydd yn helpu i fodloni eu hanghenion sgiliau nhw eu hunain yn ogystal ag anghenion eu gweithwyr.
"Yn fwy na dim arall, rydyn ni am weld system sgiliau a fydd yn fwy hyblyg ac a fydd yn gallu addasu i'r newid yn y farchnad lafur ac ymateb i anghenion sectorau â blaenoriaeth yn ein heconomi."
'Toriadau enfawr'
Dywedodd Simon Thomas AC ar ran Plaid Cymru: "Mae'n dda gweld Llywodraeth Cymru yn ceisio mynd i'r afael â'r bwlch sgiliau sy'n bodoli rhwng Cymru a gwledydd eraill yn y DU, Ewrop a thu hwnt yn ogystal â diweithdra uchel.
"Mae angen i ni gofio, fodd bynnag, fod y rhai sydd mewn addysg ôl-19 wedi bod trwy bymtheg mlynedd o addysg dan Lywodraeth Lafur Cymru, ac yn y cyhoeddiad heddiw rhaid i'r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg gyfaddef diffyg ei lywodraeth.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno toriadau enfawr i gyllideb sgiliau ôl-19, ac mae nawr yn edrych i fusnesau wneud iawn am y diffyg cyllid."
Yn ôl Angela Burns AC ar ran y Ceidwadwyr: "Er bod y geiriau cynnes gan y Blaid Lafur i'w croesawu, y gwir amdani yw bod Cymru yn colli tir yn y ras fyd-eang oherwydd dirywiad safonau addysg o dan Lafur.
"O dan Lafur, mae perfformiad mewn llythrennedd, rhifedd a gwyddoniaeth yng Nghymru yn disgyn y tu ôl i wledydd datblygedig eraill".
Mae'r Cynllun Gweithredu Sgiliau yn cael ei lansio ym mhencadlys Atradius, un o'r cwmnïau yswirio credyd mwyaf yn y byd.
Straeon perthnasol
- Published
- 29 Ebrill 2014
- Published
- 8 Gorffennaf 2013