Canabis: Tad i 12 o blant yn osgoi carchar
- Published
Fe wnaeth dyn 47 oed osgoi cael ei garcharu am gyflenwi canabis am mai fo oedd unig ofalwr ei 12 plentyn.
Dywedodd Peter Saunders wrth Lys y Goron Yr Wyddgrug bod ei blentyn ieuengaf yn 19 mis oed ond bod ei wraig wedi ei adael a phriodi rhywun arall.
Mae plant Saunders yn 19 mis oed, tri, chwech, saith, naw, 10, 12, 13, 14, 15, 18 a 22.
Dydi Saunders, o Stryd y Dywysoges yn Y Rhyl, ddim wedi gweithio am 10 mlynedd oherwydd salwch a bu'n ddibynnol ar fudd-daliadau.
Fe wnaeth Saunders, a'i fab hynna', Matthew Saunders (22 oed), oedd yn byw mewn fflat yn yr un stryd a'i dad, gyfadde' i fod â canabis yn eu meddiant gyda'r bwriad o gyflenwi.
Roedd yr heddlu wedi cynnal cyrch ar eu cartrefi ar Ragfyr 17 2013.
'Hynod ddifrifol'
Derbyniodd y ddau ddiffynnydd, wnaeth gyrraedd y llys mewn car Jaguar du, ddedfrydau o garchar wedi eu gohirio.
Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands bod Peter Saunders yn honni ei fod yn ysmygu canabis fel poen laddwr am fod ganddo boen yn ei draed o ganlyniad i glefyd siwgr.
"Dydi hynny ddim yn ei atal rhag gwneud pethau corfforol eraill," meddai.
Ond y diffynnydd oedd unig ofalwr ei blant ifanc ac mae'r Llys Apêl yn ei gwneud yn gwbl amlwg y byddai rhaid iddo wneud trosedd "hynod ddifrifol" er mwyn ei anfon i'r carchar.
Fe ddywedodd y barnwr ei fod yn rhoi budd y plant ifanc gyntaf ac yn erbyn ei ewyllys doedd dim modd anfon ei fab i'r carchar am iddo yntau bledio'n euog i'r fenter ar y cyd.
Cafodd y ddau 12 mis o garchar wedi ei ohirio am ddwy flynedd.
Bydd yn rhaid i'r tad wisgo tag am dri mis ac aros yn ei gartref rhwng 8 yh a 6 yb a bydd rhaid i'r mab fod o dan oruchwyliaeth a mynychu cynllun adferiad cyffuriau a mynychu'r llys yn fisol.
'Defnydd personol'
Wrth erlyn dywedodd y bargyfreithiwr Nicholas Sefton bod yr heddlu wedi canfod canabis mewn dau le - un yng nghanol yr anrhegion Nadolig - a oedd yn cynnwys 43 gram o'r cyffur gyda gwerth tua £450.
Roedd 'na un gram yn fflat y mab gyda'r ddau yn dweud ei fod ar gyfer defnydd personol.
Ond roedd negeseuon ar ffôn y mab yn datgelu y byddai pobl yn cysylltu gyda fo drwy negeseuon personol ar Facebook yn gofyn am gyffuriau.
Dywedodd y barnwr bod hi'n ymddangos bod y mab yn dweud wrth y cwsmeriaid i fynd i gartref ei dad "a allai eu helpu".
Rhybuddiodd y barnwr y byddai'r ddau yn cael eu carcharu os fyddan nhw'n troseddu eto ac na ddylai ddefnyddio'r plant fel amddiffyniad i osgoi carchar.