BBC Cymru Fyw

Dihangfa lwcus i ferch 17 oed

Published
image copyright Jeff Richardson
image captionTryfan

Cafodd merch 17 oed ddihangfa lwcus ar ôl iddi ddisgyn dros 200 troedfedd yn Eryri.

Mi oedd y ferch o Orllewin Lloegr yn dringo mynydd Tryfan pan aeth hi'n rhy agos at y dibyn a syrthio.

Dywedodd aelodau o dîm achub mynydd Dyffryn Ogwen ei bod hi mewn "cyflwr rhyfeddol" ac nad oedd hi wedi torri unrhyw asgwrn.

Cafodd ei chludo mewn hofrennydd i Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Parhaodd yr ymgyrch i'w hachub o 6pm i 9pm.

Straeon perthnasol

  • Tryfan yn curo'r Wyddfa