Adfer pedwar AC Ceidwadol i'w swyddi?
- Published
Mae BBC Cymru'n deall y bydd y pedwar AC Ceidwadol a ddiswyddwyd fel llefarwyr swyddogol yn y Cynulliad ym mis Chwefror yn cael eu hadfer i'w swyddi ddydd Mercher.
Y pedwar yw Nick Ramsay, Antoinette Sandbach, Mohammad Asghar a Janet Finch-Saunders.
Fe aethon nhw'n groes i'w harweinydd yn y Cynulliad, Andrew RT Davies mewn pleidlais ar ddatganoli treth incwm.
Fe wnaeth Mr Davies anghytuno'n gyhoeddus am y mater gydag ysgrifennydd Cymru ar y pryd, David Jones.
Deallir fod y penodiadau wedi eu sbarduno gan ad-drefnu cabinet Llywodraeth y DU, er mai'r blaid Geidwadol yng Nghymru sydd wedi bod yn delio gyda'r mater.
Straeon perthnasol
- Published
- 12 Chwefror 2014