BBC Cymru Fyw

Tân ar Ystad Ddiwydiannol Wrecsam

Published
image copyright(C) British Broadcasting Corporation
image captionDiffoddwr tân yn mynd i'r afael â thân mewn adeilad ar Ystad Ddiwydiannol Wrecsam

Mae diffoddwyr tân wedi mynd i'r afael â thân mewn adeilad ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam yn dilyn galwad am 04:24 bore Mercher.

Cafodd pedwar criw eu galw i ymateb i'r tân mewn eiddo masnachol ar Ffordd y Bont.

Aeth dau griw o Wrecsam, un o Johnstown ac un o'r Waun.

Ni chafodd neb ei anafu.