Javid: 'Dyfodol S4C yn obeithiol'
- Published
Mae'r Ysgrifennydd Diwylliant Sajid Javid wedi dweud bod dyfodol S4C yn edrych yn obeithiol.
Yn dilyn cyfarfod gyda rheolwyr y sianel, dywedodd: "Rwy'n credu fod S4C wedi gwneud yn dda iawn mewn amgylchiadau heriol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
"Roedd pryderon pan gafodd y trefniadau cyllido eu newid, ond mae hynny'n naturiol yn ystod cyfnod o newid."
Mae'r mwyafrif o arian S4C bellach, sef rhyw £75 miliwn y flwyddyn yn dod o ffi drwydded y BBC gyda thua £7 miliwn ychwanegol yn dod o Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon y llywodraeth.
Mi fydd yr holl drefniadau ariannu'n cael eu hystyried eto ar ôl yr etholiad cyffredinol.
'Ymateb i'r her'
Gan gyfeirio at y gostyngiad mae'r sianel wedi ei weld dros y blynyddoedd diwethaf, dywedodd Mr Javid:
"Yr hyn mae S4C wedi ei wneud yw ymateb i'r her, ac yn edrych tuag at y dyfodol o'r hyn rwyf wedi ei weld heddiw a siarad gyda'r rheolwr, mae pawb yn teimlo'n optimistaidd."
Pan ofynnwyd iddo am y ffaith bod ffigyrau gwylio'r sianel wedi cael eu beirniadu'n ddiweddar, dywedodd: "Mae lawer o fesuriadau sy'n bwysig pan yn edrych ar ddarlledu, ac mae ffigyrau gwylio yn un ohonyn nhw."
Mae S4C yn dweud eu bod hwythau hefyd yn gobeithio y bydd adran Mr Javid a'r sianel Gymraeg yn gallu cyd-weithio dros y blynyddoedd nesaf.
'Dyfodol llewyrchus'
Dywedodd Huw Jones, Cadeirydd S4C: "Roeddem yn falch iawn o groesawu'r Ysgrifennydd Gwladol i bencadlys S4C yn Llanisien heddiw.
"Ar ei ymweliad cyntaf ers ei benodi, roedd heddiw yn gyfle i ni roi blas iddo ar ddarlledu yn yr iaith Gymraeg yn ogystal â thrafod ein gobeithion a'n blaenoriaethau wrth gynllunio ar gyfer dyfodol y sianel.
"Mae'n angenrheidiol ein bod yn cynnal perthynas agos gyda'r Ysgrifennydd Gwladol a'i adran yn Llywodraeth y DU, er mwyn sicrhau ei fod ef a'i swyddogion yn ymwybodol o'r gwaith da sy'n digwydd yma, ac ar draws y diwydiant annibynnol yng Nghymru, a phwysleisio cyfraniad unigryw S4C i ddiwylliant ac economi Cymru. Cafwyd geiriau cadarn o gefnogaeth ganddo i bwysigrwydd y gwaith hwn.
"Rydym yn edrych ymlaen at barhau i gyd-weithio i sicrhau dyfodol llewyrchus i S4C."
Mi fydd S4C yn cyhoeddi ei adroddiad blynyddol yn ystod y dyddiau nesaf.
Straeon perthnasol
- Published
- 7 Mai 2014