Adfer pedwar Aelod Cynulliad Ceidwadol

Andrew RT Davies
Image caption Cafodd yr ACau eu diswyddo am fynd yn erbyn Andrew RT Davies mewn pleidlais ar ddatganoli pwerau treth

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cadarnhau bod pedwar Aelod Cynulliad gafodd eu diswyddo o gabinet y blaid ym mis Chwefror wedi cael eu swyddi yn ôl.

Cafodd Nick Ramsay, Antoinette Sandbach, Mohammad Asghar a Janet Finch-Saunders eu diswyddo am fynd yn erbyn eu harweinydd, Andrew RT Davies mewn pleidlais ar ddatganoli treth incwm.

Ddydd Mercher, daeth cadarnhad bod y pedwar yn dychwelyd i'r fainc flaen.

Bydd Nick Ramsay yn llefarydd y blaid ar Gyllid tra bydd Antoinette Sandbach yn gyfrifol am yr Amgylchedd.

Llywodraeth Leol fydd dan ofal Janet Finch-Saunders a bydd Mohammad Asghar yn llefarydd am Gydraddoldeb a Chwaraeon.

Cafodd yr ACau eu diswyddo am wrthwynebu Mr Davies mewn pleidlais ar sut y byddai treth incwm yn cael ei ddatganoli i Gymru.

Roedd Mr Davies wedi anghytuno yn gyhoeddus gydag Ysgrifennydd Cymru ar y pryd, David Jones.

Straeon perthnasol