Anaf difrifol wedi i goeden gwympo
- Published
Mae ffarmwr wedi ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol ar ôl cael ei wasgu gan goeden yng Ngheredigion.
Digwyddodd y ddamwain wrth i gontractwyr geisio clirio rhan o goedwig ar gyrion pentre' Clarach, ger Aberystwyth.
Fe wnaeth cymydog oedd yn dychwelyd o'i ginio glywed galwad am help gan y dyn sydd yn ei 30au.
Fe ddefnyddiodd llif gadwyn i glirio'r goeden cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd.
Mae BBC Cymru yn deall fod y ffarmwr lleol yn ceisio torri coeden, pan wnaeth y gwynt lorio coeden arall arno.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Cafodd y gwasanaeth eu galw am 13.41 heddiw i ddigwyddiad mewn coedwig yng Nghlarach, ger Aberystwyth.
"Cafodd ambiwlans brys ei anfon ac aed â dyn yn ei 30au i Ysbyty Bronglais, gyda anafiadau difrifol."