Michu yn ymuno gyda Napoli ar fenthyg
- Published
image copyrightAFP
Mae ymosodwr Abertawe Michu wedi ymuno â Napoli ar fenthyg am flwyddyn.
Dywedodd Abertawe bod Michu wedi "cwblhau prawf meddygol yn gynharach heddiw a bydd nawr yn cysylltu gyda thîm Rafa Benitez".
Bydd cyfle i'r clwb o'r Eidal brynu'r ymosodwr ar ddiwedd y cyfnod o flwyddyn.
Ni wnaeth y Sbaenwr, 28, deithio gyda'r Elyrch ar eu taith haf i'r Unol Daleithiau oherwydd y trafodaethau.
Ymunodd Michu ag Abertawe o Rayo Vallecano yn 2012, ac ef oedd prif sgoriwr yr Elyrch yn ei dymor llawn cyntaf gan rwydo 22 o weithiau.
Fe wnaeth arwyddo cytundeb pedair blynedd yn 2013, ond ar ôl iddo ddioddef sawl anaf, nid oedd yn gallu cyrraedd yr un safon a'r tymor cyntaf hwnnw.
Mae llywydd y clwb Serie A wedi trydar neges o groeso i Michu: "Benvenuto a Michu."