Mellten yn cynnau tân?
- Published
Mae'n bosib mai mellten achosodd dân mewn tŵr eglwys yn oriau mân bore Gwener.
Fe gafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i bentre' Abercarn ger Casnewydd toc wedi hanner nos.
Dyw Eglwys Sant Luc ddim yn cael ei defnyddio erbyn hyn.
Tân bychan oedd o, ac roedd wedi ei ddiffodd gan un criw o fewn hanner awr.
Roedd 'na stormydd ledled Cymru dros nos, ac yn ne Lloegr ac Iwerddon hefyd.
Fe recordiodd BBC South Today fwy na 3,000 o fellt rhwng hanner nos a chwech fore Gwener.
image copyrightAshley Williams