Eidalwr yn ennill ras yr Wyddfa

Ras yr Wyddfa 2010 Image copyright Other

Yr Eidalwr Ceasar Maestri enillodd Ras yr Wyddfa ddydd Sadwrn tra Sarah McCormack oedd y fenyw gyntaf i groesi'r llinell derfyn.

Oherwydd y tywydd garw penderfynodd y trefnwyr na fyddai'r ras yn mynd i gopa'r Wyddfa eleni, y tro cynna i hynny ddigwydd yn hanes 39 mlynedd y ras 10 milltir

Fe ddechreuodd y ras yn ôl yr arfer yn Llanberis ond hyn hytrach na mynd i ben y mynydd 3,560 troedfedd (1,112 m) fe benderfynodd y trefnwyr gyfeirio'r rhedwyr yn ôl heibio'r Clogwyn.

Yn gynharach yn yr wythnos dywedodd Stephen Edwards, sy'n trefnu'r diwrnod gyda help pwyllgor gwirfoddol, y byddai angen arian ychwanegol pe bai y ras am dyfu.

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n rhy fawr erbyn hyn," meddai. "Dwi 'di mynd â hi, dwi'n meddwl, mor bell â fedra i a sgen i ddim ofn deud hynna."

Dechreuodd y ras yn 1976 fel rhan o garnifal Llanberis ac i ddathlu'r 40 y flwyddyn nesaf mae cynllun i gynnal gŵyl am wythnos.

"Dwi 'di deud wrth y pwyllgor: "Os 'dach chi isho codi safon y ras ma'n rhaid i chi gael y rhedwyr da yma. Wedyn i gael rhedwyr da yma rhaid i chi gael pres, ac i gael pres rhaid i chi gael noddwyr a grantiau a hyn a'r llall.

"'Dan ni'n cystadlu efo rasys sy' werth miloedd ar filoedd lle mae rhedwyr weithiau yn cael £4,000-£5,000 am sefyll ar y llinell dechrau heb sôn am yr arian ma'n nhw'n cael am guro.

"I gystadlu yn erbyn hynna, 'sgena ni 'm gobaith fel cymuned fach os'na 'dan ni'n cael hwb o arian o rwla i helpu ni."

Image caption Mae Stephen Edwards yn dweud bod angen arian er mwyn cystadlu gyda digwyddiadau dros y byd

Straeon perthnasol