Swydd Derby v Morgannwg
- Published
Fe wnaeth y bowliwr Alex Hughes roi swydd Derby mewn safle cryf yn erbyn Morgannwg ar ddiwedd diwrnod cyntaf y gêm bencampwriaeth.
Morgannwg fatiodd gyntaf a'i chael hi'n anodd o'r dechrau.
Y tîm cartref gyda Tony Palladino (3-14) oedd ar fantais, gan adael Morgannwg ar 13-3 ar un adeg.
Fe wellodd pethau ychydig gyda Murray Goodwin (44) a Mark Wallace (30) yn sefydlu partneriaeth o 64 o rediadau ar gyfer partneriaeth y chweched wiced.
Ond yna tarodd Hughes (4-46) a Morgannwg i gyd allan am 138.
Ar ddiwedd y chwarae roedd Swydd Derby wedi cyrraedd 142-6 mewn 42 pelawd.
.
Swydd Derby v Morgannwg
Morgannwg 138
Swydd Derby 142-6
Swydd Derby (3 pwynt) Morgannwg (2 bwynt)