Seremoni agoriadol Gemau'r Gymanwlad 2014
- Published
Mae Gemau'r Gymanwlad wedi eu hagor yn swyddogol o flaen 40,000 o bobl yn Glasgow.
Roedd disgwyl i gynulleidfa o dros biliwn wylio'r seremoni agoriadol dros y byd, lle roedd dros 4,500 o athletwyr o 71 o genhedloedd a thiriogaethau'r Gymanwlad yn cymryd rhan.
Yn eu plith oedd athletwyr Tîm Cymru, sydd heb rhai o'i sêr mwyaf ar ôl i nifer dynnu'n ôl o'r garfan.
Bydd athletwyr yn cystadlu mewn 17 camp dros 11 diwrnod gan ddechrau ddydd Iau, cyn y seremoni gloi ar Awst 3.
Seremoni Agoriadol
Roedd cast o 2,000 yn perfformio yn y seremoni yn Celtic Park ac roedd rhan i'r athletwyr hefyd, gydag India yn arwain ar ôl iddyn nhw gynnal y gemau y tro diwethaf.
Roedd pobl Glasgow yn ganolog i'r seremoni, ac roedd perfformiadau gan nifer o gantorion gan gynnwys John Barrowman, Rod Stewart a Susan Boyle.
Tîm Cymru
Mae Tîm Cymru wedi dioddef sawl ergyd i'w gobeithion yn y gemau wedi i sawl athletwr orfod tynnu yn ôl.
Ni fydd yr athletwyr Triathlon Helen Jenkins a Non Stanford yn cystadlu oherwydd anafiadau, ac mae anaf hefyd yn atal y beiciwr Becky James rhag cystadlu.
Mae'r rhedwr Gareth Warburton wedi ei wahardd dros dro am dorri rheolau profion cyffuriau, tra bod y bocswyr Fred Evans ac Ashley Brace wedi methu a chael caniatâd i gystadlu.
Ni fydd Faye Pitman yn cystadlu yn y gystadleuaeth codi pwysau oherwydd anaf, ac mae Kyle Davies hefyd wedi gorfod tynnu'n ol o'r gystadleuaeth Jiwdo.
Er hynny, mae gobeithion y tîm am fedalau yn dal i fod yn uchel, yn enwedig yn y pwll lle bydd Jazz Carlin yn gobeithio gwella ar ei pherfformiad yn 2010 pan enillodd fedalau arian ac efydd.
Bydd digon o ddiddordeb Cymreig yn y ras 400 metr dros y clwydi lle bydd Dai Greene a Rhys Williams yn cystadlu yn erbyn eu gilydd, ac mae Aled Sion Davies yn un o'r ffefrynnau yng nghystadlaethau'r ddisgen.
Gall y beiciwr Geraint Thomas hefyd gyfrannu medalau at y targed o 27 medal gafodd ei osod i Dîm Cymru.
Codi pwysau yw'r gamp y mae Cymru wedi gwneud orau ynddi yn hanesyddol, a bydd Michaela Breeze yn ceisio ennill medal arall ar ol iddi ddod allan o ymddeoliad i gystadlu.
Ffeithiau'r Gemau
Y Frenhines oedd yn gyfrifol am agor y Gemau yn swyddogol pan gyrhaeddodd Baton y Frenhines, wedi taith o 190,000km dros wledydd y Gymanwlad.
Darllenodd y neges roddodd yn y baton ar ddechrau ei daith, a cafodd ei gario gan filoedd o redwyr ar y siwrne.
Mae bron i filiwn o docynnau i wylio'r gemau wedi eu gwerthu, a bydd dros 15,000 o wirfoddolwyr yn ymuno a'r heddlu a'r lluoedd arfog i sicrhau bod y gemau yn digwydd yn ddiogel.
Mae £90m wedi ei wario ar ddiogelwch ar gyfer y gemau, allan o gyllideb y gemau oedd yn £472.3m.
I sicrhau bod cymaint o bobl â phosib yn gallu gwylio'r seremoni agoriadol, cafodd sgrin fwyaf Ewrop ei chodi y tu allan i Celtic Park.
Mae'r sgrin bron i 100 metr o hyd, ac yn pwyso 38 tunnell.