Y Seintiau Newydd allan o Ewrop
- Published
image copyrightGetty Images
Mae'r Seintiau Newydd allan o Ewrop ar ôl colli o 2-0 yn eu gem yn ail rownd rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr yn erbyn Slovan Bratislava.
Roedd y Seintiau ar ei hôl hi o 1-0 yn mynd i mewn i'r gêm yn y Rhyl, a chwaraeon nhw'n dda mewn hanner cyntaf gystadleuol.
Ond daeth dwy gôl gan Marko Milinkovic yn chwarter awr olaf y gêm i suddo'r Seintiau.
Aeth y gôl gyntaf i mewn ar ôl 74 munud, cyn i Milinkovic sgorio cic gosb wych i sicrhau'r fuddugoliaeth yn yr eiliadau olaf.
3-0 oedd y sgôr ar gyfanswm goliau.
Straeon perthnasol
- Published
- 22 Gorffennaf 2014