Ffugio cofnodion: Mwy o gyhuddiadau
- Published
Mae tair nyrs oedd wedi eu cyhuddo o droseddau'n ymwneud â ffugio cofnodion yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi eu cyhuddo o ragor o droseddau.
Fe gafodd y tri eu cyhuddo o esgeulustod bwriadol o dan Adran 44 Deddf Galluedd Meddwl 2005, yn ymwneud â chwe chlaf pellach.
Fe gafodd y tri wybod am y cyhuddiadau pellach pan atebon nhw eu mechnïaeth brynhawn dydd Mawrth (22 Gorffennaf).
Mae'r heddlu wedi cysylltu â'r holl gleifion neu deuluoedd y cleifion i roi gwybod iddyn nhw am y datblygiadau.
Mae'r tri wedi eu gwahardd o'r gwaith ers y llynedd.
Fe fyddan nhw'n ymddangos gerbron Llys Ynadon Pen-y-bont ddydd Llun, 28 Gorffennaf.
Y CYHUDDIADAU
Mae'r cyhuddiadau'n effeithio ar wyth claf i gyd.
Mae'r nyrsys yn wynebu'r cyhuddiadau a ganlyn:
- Rebecca Jones - wyth cyhuddiad (dau yn wreiddiol, a chwech yn ychwanegol)
- Lauro Bertulano - chwe chyhuddiad (dau yn wreiddiol a phedwar yn ychwanegol)
- Clare Cahill - chwe chyhuddiad (dau yn wreiddiol a phedwar yn ychwanegol)
Fore Mercher, daeth i'r amlwg fod Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg wedi gwahardd nyrs arall o'r gwaith yn rhan o'r ymchwiliad i honiadau o ffugio cofnodion.
Mae 15 o nyrsys wedi eu gwahardd o'u gwaith yn rhan o'r ymchwiliad erbyn hyn.
Straeon perthnasol
- Published
- 23 Gorffennaf 2014
- Published
- 19 Mehefin 2014
- Published
- 1 Gorffennaf 2014
- Published
- 29 Mai 2014
- Published
- 12 Mai 2014