BBC Cymru Fyw

Cwrw a chocos - dewch i flasu danteithion bro'r Sosban

Published
image copyrightJeff Connell
image captionTraeth Cefn Sidan, Pen-bre

Os fyddwch chi'n syrffedu'n llwyr ar steddfota ac yn danto ar gerdd dant - peidiwch â phoeni. Mae'r awdures Joanna Davies, sy'n hanu o Gwm Gwendraeth, wrth law gyda'i hawgrymiadau hi o'r pethau eraill sydd i'w gweld a'u gwneud yn Sir Gâr.

Bwyta ac yfed

Wedi syrffedu ar tships a byrgyrs ar y maes? Beth am gacen fach ffein yng Nghaffi Flanagans sydd yn y Ganolfan Ddarganfod ynghanol Parc Arfordirol y Mileniwm.

Neu os ydych chi eisiau pryd fwy sylweddol, ewch i flasu bwydlen eang bwyty'r Sosban yn Nociau'r Gogledd yn Llanelli. Mae'r gogyddes Sian Rees - er o Gydweli'n wreiddiol - wedi treulio amser yn coginio ym mwytai crand Clardiges a L'Esgargot yn Llundain. Rhowch gynnig ar Sewin y Tywi neu Samwn y Mynydd Du.

Ac os ydych chi eisiau blasu cocos a bara lawr byd-enwog Penclawdd, cofiwch alw ym marchnad Llanelli lle cewch chi ddigonedd o ddewis o fwyd y môr.

Wrth gwrs mae bwyd y môr yn hallt a bydd angen peint i wlychu'r pig ar ôl y cocos 'na. Ewch i'r Lewis Arms ar Heol Yspitty am beint o gwrw Felinfoel. Dyma fragdy hynaf Cymru a does neb werth ei halen yn mynd i Lanelli heb brofi cwrw'r fro!

Mannau prydferth

Mae yna lu o fannau prydferth i chi ymweld â nhw. Dyma rai o fy ffefrynnau i:

  • Traeth Cefn Sidan - chwarter awr o Lanelli ac yn le hyfryd ar gyfer cerdded a myfyrio os ydych wedi cael cam yn y steddfod!
  • Parc Arfordirol y Mileniwm - dechreuwch ar eich siwrne o'r Ganolfan Ddarganfod yn Nociau'r Gogledd yn Llanelli. Mae'r arfordir yn ymestyn am 22 cilometr ac yn cynnwys traeth Llanelli a golygfeydd panoramig aber afon Llwchwr a Phenrhyn Gŵyr
  • Canolfan Llanelli Penclacwydd, Llwynhendy - cyfle i weld a chlywed adar gwyllt yr ardal yn eu hamgylchfyd naturiol.
  • Plas Llanelli - dysgwch sut oedd crachach y fro, sef teulu'r Stepney yn byw cyn dyddiau 'Downton Abbey'. Dyma un o'r enghreifftiau gorau o adeilad Sioraidd cynnar yng Nghymru hefyd.
  • Gardd Fotaneg Cenedlaethol Cymru - ychydig ymhellach o'r dre ym mhentref Llanarthne ond yn werth ei gweld. 568 erw o blanhigion a blodau mwya trawiadol Cymru.

Celfyddyd

image copyrightDarganfod Sir Gar
image captionBydd y Ffwrnes yn cynnal amryw o gynhyrchiadau adeg yr Eisteddfod

Cofiwch ymweld â Theatr y Ffwrnes a agorodd ei drysau swanc yn 2012 fel rhan o brosiect £60 miliwn i adnewyddu tref Llanelli.

Bydd Theatr Ieuenctid Cwm Gwendraeth yn perfformio'i drama, 'Mewn Undod mae Nerth' ar 2 Awst yn y Ffwrnes. Mae'r ddrama'n adrodd stori brwydr trigolion pentre Llangyndeyrn yn erbyn bygythiad Corfforaeth Abertawe i foddi'r pentref i adeiladu cronfa ddŵr newydd.

Mae yna sioe deyrnged arbennig i Ray Gravell rhwng y 4-5 o Awst, a gwledd o gomedi gyda Tudur Owen, Daniel Glyn a chomedïwyr eraill ar 6 Awst yn y Ffwrnes hefyd.

Os am ddysgu mwy am gelfyddyd a hanes Llanelli, does unman gwell nag Amgueddfa Gelf Parc Howard. Dyma lle gallwch weld rhyfeddodau fel yr Harmoniwm â phedalau arbennig i'w arbed rhag ymosodiadau gan lygod, crochenwaith enwog Llanelli a dyfais byd-enwog y Stepneys, yr olwyn sbâr cyntaf i geir!

Chwaraeon

image copyrightDarganfod Sir Gar
image captionWest is best?

Er nad ydw i'n ffan o rygbi (rhywbeth sy'n rhoi sioc i lawer gan i mi gael fy addysgu yng Nghefneithin a'm magu dafliad carreg o Lanelli) mae'n werth i chi ffans ymweld â Stadiwm Parc y Scarlets. Yn anffodus ni fydd modd i chi ffroeni'r un awyr â'r cewri rygbi a fu fel Bennett, Quinnell a Gravell gan fod y stadiwm gwreiddiol enwog - Parc y Strade - wedi ei ddymchwel yn 2010.

Gwisgwyd y crys ysgarlad enwog gan dîm rygbi byd enwog Llanelli am y tro cyntaf ym 1884. Mae'r crys yn y lliw nodweddiadol hwn wedi ei wisgo byth er hynny.

Felly dyma i chi flas ar ddanteithion bro'r Sosban - mwynhewch!

Bydd Joanna Davies yn arwyddo copiau o'i nofel newydd 'Cario Mlaen'yn stondin y Cyngor Llyfrau ar y maes rhwng 1pm-2pm ar ddydd Sadwrn 2 Awst.

Am fwy o wybodaeth am bethau i'w gweld a'u gwneud yn Sir Gâr ewch at ein oriel luniau arbennig.

Am fwy o'r Brifwyl, ewch i'n gwefan Eisteddfod.